Pobol yr enfys
Lle awn ni nesaf? Mae Rhodri yn gwneud ei orau glas heddiw i aros yn y gêm ond mewn gwirionedd mae'r cyfan allan o'i ddwylo nawr. Ieuan yw'r ffigwr allweddol a dwi i'n ei chael hi'n anodd credu y bydd hi'n bosib iddo gerdded i ffwrdd o swyddfa’r Prif Weinidog.
Mae'n amlwg bod Rhodri yn gobeithio y bydd aelodau Plaid Cymru yn gwrthryfela yn erbyn yr "enfys" yn yr un modd a wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol ar lawr gwlad wrthryfela yn erbyn cytundeb a Llafur. Gallai pethau newid ond dw i ddim yn synhwyro bod hynny'n digwydd. Yn sicr mae 'na bobol sydd yn anesmwyth ac yn anhapus a'r syniad o gydweithio a'r Torïaid ond dwy ddim yn cael yr argraff eu bod yn ddigon niferus nac yn ddigon cryf eu teimladau i rwystro Ieuan rhag cyrraedd cytundeb os ydy e'n dymuno hynny.
Mae pawb yn awr yn dechrau dychmygu pwy allai fod ym mha swydd yn llywodraeth yr enfys. Mae hynny braidd yn ffôl yn fy nhyb i oherwydd nad oes na unrhyw sicrwydd y byddai'r llywodraeth newydd yn cadw at yr un ffiniau adrannol a'r llywodraeth bresennol.
Serch hynny fe wnâi fentro y byddai Mike German yn gorfod dewis rhwng Kirsty Williams (a allai wrthod oherwydd ei hamharodrwydd i weithio a'r Torïaid) a Jenny Randerson. Fe fydd Nick Bourne yn ei chael hi'n anodd iawn i beidio cynnig llefydd cabinet i Jonathan Morgan a David Melding (er mai aelod meinciau cefn yw David ar hyn o bryd). Yn sicr fe fyddai Ieuan Wyn Jones yn gorfod dod o hyd i swyddi i Helen Mary Jones a'i ddirprwy Rhodri Glyn Thomas. Er mwyn sicrhâi cydbwysedd daearyddol fe fyddwn i'n rhagweld y byddai na swydd bwysig i un o Joneses y Gogledd Alun Ffred neu Gareth.
Yn colli allan felly fyddai rhai ffigyrau amlwg fel William Graham ac Alun Cairns o'r Ceidwadwyr a Dai Lloyd a Janet Ryder o Blaid Cymru. Dyfalu yw hyn oll wrth gwrs. Fe gawn wybod pan ac os daw'r enfys i fodolaeth.
SylwadauAnfon sylw
Diddorol iawn. Mwy diddorol na'r etholiad ei hun ;)Edrychaf ymlaen i weld y cam nesaf!
Mae'r cerdiau cryfaf yn nwylo Ieuan rwan. Rhaid fydd i Rhodri gynnig cythgam o gynnig da i rwystro y glymblaid amryliw. Dwi ddim yn saff pa mor agos ydym at yr "end game". Mae penderfyniad y Democratiad yn ceisio annog Ieuan i ddangos ei gardiau. Tybed a yw yn well cynnyddu'r stakes i geiso ennill mwy. Tybed a fydd Gordon yn gallu helpu Rhodri efo rhyw friwsion.
Nid briwsion sydd gan Gordon yn ei ddwylo ond tyrth lawer! Be all achub Llafur eto ydi'r ffaith fod ganddyn nhw un peth nad eosg en yr un o'r pleidiau eraill - pwer yn San Steffan. Os ydynt yn barod gwneud er mwyn aros mewn llywodraeth gall Lafur addo adolygu Barnett, taith rwydd i fesur refferendwm a nifer o fesurau eraill drwy San Steffan. All y Toriaid ddim cynnig hyn i'r Blaid. Be bynnag gyntuna'r Enfys ymysg eu hunain - bydd y newidiadau mawr sydd angen deddfwriaeth ar drugaredd plaid Lafur fydd wedi digio yn lan ac am wneud bywyd yn anodd iddynt. Synnwn i ddim mai llugoer ar y gorau fyddai cefnogateh Llafur i unrhyw ymgyrch Ie mewn refferendwm sydd heb ei alw ganddyn nhw hefyd.
Gobeithio y cawn lywodraeth enfys mae'n rhoi siawn i ni weld os ydy polisiau y Blaid wedi ei costio, ac hefyd mae o'n rhoi siawns i weld pa bolisiau sydd gan y Ceidwadwyr i'w gynnig ac os ydyn nhw symud ir canol ag i ffwrdd or Toriaid yn lloegr. Amser diddorol i ddod!!