Stats gan Scully
Diolch i Roger Scully o adran wleidyddiaeth Aber am y ffeithiau diddorol yma.
1. Enillodd Llafur 32.2% o'r bleidlais etholaethol yng Nghymru, union yr un canran ac yn yr Alban. Hwn yw'r tro cyntaf ers 1924 nad oedd y bleidlais Lafur yng Nghymru yn uwch na'i phleidlais yn yr Alban.
2. Fe wnaeth siâr y Blaid Lafur o'r bleidlais ostwng yn 39 o'r 40 etholaeth. Yr eithriad oedd Canol Caerdydd.
3. Fe wnaeth ymgeisydd o'r tu allan i'r pedair prif blaid lwyddo i ddod yn bedwerydd neu'n uwch mewn 11 o etholaethau o gymharu â 5 yn 2003. Yn y bleidlais ranbarthol fe enillodd y pleidiau llai ac ymgeiswyr annibynnol 16.3% o'r bleidlais o gymharu a 11.95% yn 2003 a 4.9% yn 1999
SylwadauAnfon sylw
Mae hyn yn dangos fod y Blaid Lafur wedi bod yn lwcus iawn yma yng Nghymru eleni. Roedd siawns gweld sefyllfa tebyg i'r Alban os byddai Plaid Cymru yn llwyddo i ddenu cefnogaeth eang gwrth-Llafur. Yn anffodus roedd y bleidlais yn erbyn Llafur yn rhanedig iawn rhwng y 3 gwrthblaid, y plediau llai a'r Annibynwyr!
Ac hefyd Hedd mae'n dangos bod yna rywbeth yn bod gyda'n system pleidleisio. Llafur 32.2% o'r bleidlais a 23.3% o'r seddi. Y Toriad a'r Blaid yn hafal (Toriad yn curo ar y rhestr) ond y Blaid yn ennill 3 mwy o seddi - gwirion.