Y Bore wedyn
Diolch i bawb wnaeth gyfrannu i'r blogio byw neithiwr. Roedd hi'n wahanol! Fe fyddai nol i'r drefn arferol yn Yn hwyrach heddiw. Ar hyn o bryd mae'n ymddangos bod hi'n agos rhwng y Torïaid a Phlaid am y sedd restr olaf yng Ngorllewin De Cymru. Mae'n ymddangos y galla'r Democratiaid Rhyddfrydol gymryd un sedd o Blaid Cymru ar rest Canol De Cymru.
SylwadauAnfon sylw
Wedi mwynhau rhaglen a blog neithiwr yn fawr ond pawb yn gorfod rhedeg i gyrraedd yr ysgol mewn amser o'r herwydd! Llongyfarchiadau.
Fydd yna 'Rainbow Coalition' ? Beth fydd Rhodri yn gwneud ? Nid yw e yn 'saff' eto..
Diolch o galon am hwn, Vaughan. Heb adael sylw hyd yma dw i'm yn meddwl ond dw i wedi darllen pob un gair yn awchus, gan gynnwys y sylwadau i gyd. Cyfraniad pwysig iawn i'r drafodaeth lle does dim byd o gwbl wedi bodoli o'r blaen (ac mae'n Gymraeg hefyd, sy'n wych)
Gwerthfawrogi'n fawr iawn iawn. A dyma obaith y bydd y blog yn parhau'n gyson o hyn ymlaen hefyd! "A political blog is not just for elections", neu rhywbeth. Siwr bod rhywun doeth wedi dweud hynny rhyw bryd.