Y ddefod o bleidleisio
Bwriais fy mhleidlais gyntaf ar ddiwrnod fy mhen-blwydd yn ddeunaw. Refferendwm y Farchnad Gyffredin oedd yr achlysur af fe bleidleisiais i yn erbyn. Dw i ddim yn cofio pam. Dw i wedi pleidleisio ym mhob un etholiad a refferendwm er hynny gan gefnogi buddugwyr weithiau ac achosion coll ar adegau eraill.
Mae profiad fy Mam yn wahanol. Mae hi'n wythdeg eleni a bwriodd ei phleidlais gyntaf yn etholiad cyffredinol 1950. Refferendwm 1997 oedd yr achlysur cyntaf iddi bleidleisio i'r ochor fuddugol. Gofynnais iddi unwaith pam oedd hi'n boddran o gwbwl ond i'w chenhedlaeth hi, yn enwedig ei chenhedlaeth hi o fenywod, roedd y bleidlais yn rhywbeth i'w thrysori a'i defnyddio.
Bues i'n sgwrsio a Huw Lewis (Llafur, Merthyr) heddiw. Mae Huw'n digalonni'n llwyr fod 'na genhedlaeth gyfan o fenywod yn ei etholaeth sydd erioed wedi bwrw pleidlais. Yn ôl Huw mae'r genhedlaeth hon bellach yn famau i blant ifanc- yr union bobol sy'n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus fwyaf. Eto i gyd does ganddyn nhw ddim diddordeb o gwbwl yn y cyrff sydd mewn sawl ffordd yn rheoli eu bywydau.
Mae Huw am weld pleidleisio gorfodol, fel sy'n digwydd yn Awstralia. Dw i ddim yn siŵr am hynny ond yn sicr mae 'na broblem ddifrifol.
SylwadauAnfon sylw
Cofiaf yn iawn 5 Mehefin 1975, a minnau hefyd yn bwrw fy mhleidlais, am y tro cyntaf, a hynny yn erbyn aros o fewn y Gymuned Economaidd Ewropeaidd, fel yr oedd ar y pryd. Credaf mai'r ofn mawr oedd y bygythiad, fel yr oedd pobl yn ei ddirnad ar y pryd, y câi grym ei bellhau oddi wrthym, a ninnau ar y pryd yn ymgyrchu'n frwd dros ddod â grym yn nes at y bobl. I rai pobl, roedd Ewrop megis anghenfil mawr oedd yn bygwth sugno cenledloedd bach a mawr, fel ei gilydd.
Erbyn hyn, credaf fod y fath ddehongliad yn gwbl anghywir, a bod aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn hanfodol i genhedloedd bach fel ni. Yn bendant, mae Ewrop wedi dangos ei bod yn cydnabod bodolaeth cenhedloedd bach a hefyd ieithoedd â defnydd llai, a dwy ddim yn gweld dim byd yn groes rhwng ymgyrchu dros gael Senedd go-iawn i Gymru ar un llaw ac, ar y llaw arall, dros ddymuno ffyniant i'r Undeb Ewropeaidd.
O ran defnyddio'r hawl i bleidleisio, byddaf innau'n rhyfeddu wrth yr holl ddifaterwch a geir ymysg pobl y mae cyrff fel y Cynulliad neu Awdurdodau Lleol yn bendant yn effeithio arnynt. Nid yn unig menywod ifainc sy'n gadael i gyfleoedd fel hyn fynd heibio, ond hefyd dynion ifainc a chanol oed, a minnau'n meddwl am aberth John Frost a'i griw, a gludwyd i Awstralia dros eu hawl hwythau i fwrw eu pleidlais. Y casgliad? Bod nifer fawr o ymgyrchwyr, o arloeswyr, mewn gwirionedd, yn troi yn eu beddau!
Mae'n rhaid fod y tywydd braf yma yn effeithio arnai!!...am unwaith dwi'n cytuno efo Huw Lewis y dylai bwrw pleidlais fod yn orfodol gan fod yr hyn mae gwleidyddion yn ei wneud yn effeithio ni i gyd. Fel cyn-gynghorydd sirol, mae'n fy ngwylltio i pan dwi'n clywed pobl yn cwyno ac yna pan da chi'n gofyn iddynt i bwy aru nhw bleidleisio mae nhw'n dweud neb! - Be ti'n feddwl fydd y "turnout" 'fory Vaughan?
Bydd yfory y trydydd tro imi fwrw pleidlais, y tro cyntaf oedd ym Mhorthaethwy yn 2003 a'r ail dro oedd yn Berlin yn 2004. Yr esgus sydd gen i ydy mod i wedi treulio'r rhan fwyaf o fy amser fel oedolyn yn teithio o gwmpas y cyfandir, neu yn achos 1992 roedd i yn Iwerddon, ac yn rhy ddiog i anfon pleidlais trwy'r post. Mae gorfodi yn un syniad, ond gallai arwain at rai canlyniadau radical dros ben wrth i'r pleidleiswyr gosbi'r rhai sydd wedi eu gorfodi nhw i bleidleisio!
Gwilym, dwy'n meddwl y bydd y "turnout" yfory ychydig yn uwch na'r 38% tro diwetha. Hynny am ddau reswm. Yn gyntaf roedd etholiadau 2003 yn cael eu cynnal dan gysgod Ryfel Iraq a dim yn cal llawer o sylw. Yn ail mae 'na wir ddewis y tro ma. Yn 2003 roedd pobol yn dewis rhwng llywodraeth Lafur a llywodraeth Llafur/Dem Rhydd. Ac mae'r tywydd yn hyfryd...mae hynny'n helpu!
Dywedwch fy mod i'n galed ond.....efallai fod y menywod yma (a dynion 'fyd) yn cael gormod ar blat heb ymdrechu ddigon amdano. Mae'n gormod o ymdrech iddynt hyd yn oed godi mas bob rhyw bedair mlynedd i fwrw pleidlais. Am wneud pleidleisio'n orfodol....Duw a'n helpo os bydd y bobl 'ma yn cael effaith ar bwy sy'n cael eu ethol.