Ble nesa?
Mae'n saith y bore yn Llandaf a finnau ar fin dechrau bownsio nôl a malen rhwng stiwdios Post Cyntaf a Good Morning Wales i geisio esbonio'r datblygiadau diweddaraf. Cyfle i hel meddyliau felly ac edrych ar amserlen y dyddiau nesaf.
Mae 'na ddau beth sy'n amlwg. Yn gyntaf mae unrhyw syniad y gallai Llafur ymlwybro ymlaen trwy’r haf fel llywodraeth leiafrifol wedi diflannu. Yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg mae Helen Mary Jones yn dadlau dros rinweddau llywodraethau lleiafrifol ond mae'n rhaid dweud bod hi'n lleisio safbwynt eithaf unig wrth feddwl y gall rhiw fath o frawd neu chwaer-garwch Greenhamaidd reoli Cymru am bedair blynedd.
Yr ail beth sydd yn amlwg yw y bydd Plaid Cymru yn rhan o lywodraeth Cymru ymhen ychydig wythnosau. Y cwestiwn nawr yw ai Coch/Gwyrdd fydd y llywodraeth honno ai'r "enfys". Yr unig blaid all ateb y cwestiwn hwnnw yw Plaid Cymru.
Fe fydd na fawr ddim yn digwydd ar ochor yr enfys yn ystod y dyddiau nesaf. Mae'r cytundeb hwnnw yn barod. Y dasg i swyddogion Llafur a Phlaid nawr yw llunio rhaglen waith cyffelyb i lywodraeth Coch/Gwyrdd. Os ydy hi'n bosib llunio'r cytundeb hwnnw fe fydd y dogfennau'n cael eu hystyried gan fawrion y blaid yn Aberystwyth Ddydd Sadwrn.
Dw i'n cael ar ddeall y bydd grŵp Plaid Cymru yn penderfynu pa un o'r ddau lwybr i'w ddilyn yn y cyfarfodydd hynny. Does 'na ddim bwriad i ganiatáu i Gyngor Cenedlaethol y Blaid ddewis rhwng y ddau gynllun. Dweud "Ie" neu "Na" i ddewis y grŵp fydd tasg y corff hwnnw ar Orffennaf 7fed.
Fe fydd y dewis yn un eithaf eglur ond serch hynny yn un anodd. Arwain llywodraeth neu sicrhâi senedd? Dyna fydd y cwestiwn.
SylwadauAnfon sylw
Dwi'n hynod siomedig os yw PC am fynd i glymblaid gyda Llafur. Bydd Plaid a Chymru ar ei cholled. Dim ond Llafur fydd yn elwa. Pam nad yw ACau PC am weld Prif Weinidog o'i plaid eu hunain?
Byddai Clymblaid yr Enfys yn newid Cymru am byth, nawr rydym yn ol i'r un hen wleidyddiaeth.
Mae PC fel petai nhw am rhoi ail-wynt i Lafur a thynnu'r hwyliau o wleidyddiaeth newydd yng Nghymru.
Trist iawn.
Mae'n wir y bydd y dewis i Blaid Cymru'n un anodd iawn - ond dydi'r dewis ddim llawn mor eglur ag y mae Vaughan yn ei honni.
Petai'n fater o ddewis syml rhwng arwain llywodraeth a sicrhau senedd, mae'n ddigon posib y byddai mwyafrif aelodau'r Blaid yn dewis sicrhau senedd.
Ond y ffaith amdani ydi ei bod hi'n anodd iawn rhagweld sut y gallai cytundeb â Llafur sicrhau hyn. Dydi cael refferendwm yn dda i ddim ynddo'i hun onibai fod yna sicrwydd gweddol o bleidlais gadarnhaol. Dydi o ddim o fewn gallu Rhodri Morgan i wneud hyn, felly fyddai cytundeb o'r fath ddim yn werth y papur y byddai wedi ei ysgrifennu arno. Yr unig fath o addewid a fyddai'n haeddu unrhyw ystyriaeth fyddai ymrwymiad llwyr gan Gordon Brown y byddai'r llywodraeth Lafur nesaf yn troi pob carreg i weithredu argymhellion comisiwn Richard.
Gan ei bod hi'n annhebyg y gellir cael sicrwydd o'r fath, rhaid i'r prif bwyslais fod ar sicrhau llywodraeth well i Gymru. Dyna'r unig ffordd sicr o wthio'r broses ddatganoli yn ei blaen.
Diddorol ynghylch trefn frewnol y Blaid. Pam ysgwnni nad ydi 'mawrion' y blaid yn fodlon gadael i'r aelodau cyffredin ddewis rhwng y ddwy opsiwn? Byddai hygrededd pa bynnag benderfyniad a wneir gymaint yn fwy wedyn. Fel hyn, mae'r aelodau'n cael dewis rhwng 'clymblaid x' neu dim byd, dydd ddim yn ddewis o gwbl.
Dwi'n falch iawn bod y ddadl bod angen chwilio am esgus i alw pleidlais o ddiffyg hyder wedi cael ei chwalu bore 'ma gan Ieuan Wyn Jones. Dwi'n falch hefyd bod amserlen wedi ei phennu - all Cymru ddim aros misoedd heb lywodraeth ac mae angen penderfyniad cyn yr haf. A dwi'n falch bod y dadlau ynglyn a dilysrwydd llywodraeth dan arweinyddiaeth yr ail brif blaid yn pylu, wedi'r cyfan mae'r cysyniad o glymblaid rhwng y blaid fwyaf a'r brif wrthblaid yr un mor newydd a dadleuol.
Mae dadl Helen Mary Jones yn ddilys, ond dwi'm yn meddwl y gall hyn ddigwydd mewn gwirionedd nes bydd pob un o'r prif bleidiau yn y Cynulliad wedi profi cyfnod mewn grym ac o orfod gwneud y penderfyniadau caled.
O ran y cwestiwn o refferendwm, mae angen cofio wrth gwrs nad ydi hi'n amhosib y bydd ganddom ni lywodraeth o liw gwahanol yn San Steffan mewn dwy flynedd, a falle bydde Mr Cameron yn fwy parod i setlo'r llanast cyfansoddiadol yma unwaith ac am byth.
A bod yn onest, does fawr o ots gen i prun a'i clymblaid gochwyrdd ta amryliw gawn ni, cyhyd a'n bod ni'n cael chwistrelliad o syniadau newydd a llywodraeth sy'n ddigon cryf i fynd ati i daclo problemau'r NHS, yr amgylchedd ac ati. Ac mae ymagwedd Plaid Cymru dros y mis diwetha yn codi fy nghalon i, a galle'r bedair blynedd nesa fod yn rai adeiladol iawn o ran llywodraethu Cymru.
Dwi'n meddwl mai'r unig ddewis yw i Blaid Cymru gynghreirio gyda Llafur. Yr hyn y byddwn i wedi ei ffafrio fyddai dealltwriaeth lac, ond mae'n aml nad ydi hynny ar y bwrdd erbyn hyn.
Er na fyddai dim byd yn well gen i na gweld Prif Weinidog Plaid Cymru, dwi'n meddwl ei bod yn annerbyniol fod unrhyw blaid heblaw'r un enillodd y nifer fwyaf o seddi yn arwain y llywodraeth. Ysywaeth, chafodd Plaid Cymru ddim mandad i ffurfio llywodraeth ond os bydd Ieuan Wyn Jones yn ddoeth rwan a dod i gytundeb hefo Llafur,mae'n hollol bosib y bydd y Blaid yn ennill y nifer fwyaf o seddi'r tro nesaf.