³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Briefings y bore

Vaughan Roderick | 10:51, Dydd Mawrth, 12 Mehefin 2007

10.15 Rhodri Morgan; Dywedodd Rhodri ei fod wedi cynnal cyfarfod "adeiladol" y bore 'ma gyda Ieuan Wyn Jones a Jocelyn Davies. Am y tro cyntaf awgrymodd Rhodi fod clymblaid coch/gwyrdd yn bosib. "Mae popeth ar y bwrdd- does dim byd wedi ei gau allan". Ychwanegodd y byddai llywodraeth o dan arweinyddiaeth Llafur yn gallu cyflawni llawer mwy o ddyheadau Plaid Cymru na llywodraeth "enfys" oherwydd ei pherthynas a llywodraeth San Steffan a'i niferoedd yn y siambr. Dywedodd ei fod yn fodlon trafod rhagor gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd one ei fod yn synhwyro bod y blaid honno wedi "cau ei hun allan- am y tro"

11.00 Nick Bourne; Mae Rhodri yn ymddwyn fel "CeauÅŸescu ar y balconi" trwy fygwth y gallai Llafur San Steffan flocio mesurau llywodraeth "enfys". Mae'r ysgrifen ar y mur i Rhodri mae Llafur wedi profi nad ydynt yn gallu newid i ddygymod a bod mewn lleiafrif

12.00 Ieuan Wyn Jones; Fe fydd 'na gyfarfod arbennig o grŵp Plaid Cymru heno i drafod y ffordd ymlaen. Doedd Ieuan ddim yn fodlon datgelu cynnwys ei drafodaethau'r bore 'ma ond dywedodd bod bygwth blocio mesurau llywodraeth enfys yn "gwbwl trahaus". "Os ydy Rhodri yn dweud mai'r unig ffordd y gall y drefn weithio yw trwy gael llywodraethau o'r un lliw yng Nghaerdydd a San Steffan nid trefn ddemocrataidd yw hi."

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:03 ar 12 Mehefin 2007, ysgrifennodd Helen:

    Os felly, hen bryd, a chyfle hefyd i wrthbrofi'r hyn a ddywedodd rhai digon uchel eu cloch cyn yr etholiadau, sef fod pleidlais dros y Blaid yn mynd i adael y Torïaid i mewn! Mae'n bryd i Lafur a'r Blaid eistedd wrth yr un bwrdd a dod i gytundeb - a wna' i ddim ailadrodd fy syniadau i hyd syrffed!!!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.