Claude Rains y Cyfryngau
Wrth gyflwyno ei raglen ddeddfwriaethol ddoe cyfaddefodd Rhodri Morgan fod y llywodraeth wedi methu argyhoeddi'r etholwyr o rinweddau'r cynlluniau i ad-drefnu gwasanaethau ysbyty Cymru. Roedd pawb yn derbyn meddai bod yn rhaid i'r gwasanaeth newid y dasg oedd darbwyllo'r cyhoedd bod y newid hwnnw yn newid er gwell. A phwy mae Rhodri wedi penodi i ddarbwyllo pobol Cymru o hynny? Wel, gweinidog sy'n ddiharebol o amharod i ymddangos ar y cyfryngau neu siarad â newyddiadurwyr!
Nawr yn ôl pob son gan weision sifil a 'i chyd-wleidyddion mae Edwina Hart yn weinidog hynod effeithiol a gweithgar gan dorri trwy fiwrocratiaeth a sicrhâi bod cynlluniau yn cael eu gwireddu. Digon teg. Ond mae perswadio Edwina i ymddangos gerbron camera neu mewn cynhadledd newyddion fel tynnu gwaed o garreg. Haws, dybiwn i, fyddai perswadio Peter Doherty i droi'n efengylwr na darbwyllo Edwina i ymddangos mewn stiwdio!
Sut felly y bydd Edwina yn ceisio darbwyllo'r cyhoedd o werth unrhyw newidiadau i'r gwasanaeth iechyd? Trwy lythyr? Trwy gnocio ar eu drysau...neu trwy ddibynnu ar ei dirprwy, Gwenda Thomas?