Cyffro cyfansoddiadol
Mae'n ddiddorol gweld bod Gordon Brown yn rhoi blaenoriaeth i gwestiynau cyfansoddiadol yn ei ddyddiau cynnar fel prif weinidog.
Dyw e hi ddim yn gyd-ddigwyddiad, yn fy marn i, bod adroddiad pwysig ynglŷn â'r union bwnc newydd ei gyhoeddi. Gyda phopeth arall oedd yn digwydd cafodd yr adroddiad gan y "" fawr o sylw ond mae'n bosib ei fod yn rhoi awgrym o'r mathau o bethau sydd ar feddwl y prif Weinidog newydd.
Yr uned hon yng Ngholeg Prifysgol Llundain yw'r unig adran academaidd sy'n bodoli'n unswydd i astudio newid cyfansoddiadol ac mae ei gyngor yn cynnwys mawrion megis yr Arglwyddi Hurd, Steel, Wolf ac Elis-Thomas yn ogystal ag academyddion, newyddiadurwyr a gwleidyddion.
Mae'r adroddiad cyfan werth ei ddarllen. Gellir gwneud hynny yn . Mae rhannau sy'n ymwneud a Chymru yn esbonio pam efallai y mae aelodau seneddol Llafur Cymru mewn cymaint o sbin. Dyma un o'r argymhellion.
"One partial solution Gordon Brown could consider is to harmonise the electoral quotas of the four UK territories, ending English under-representation, or even to reduce the representation of Scotland, Wales and Northern Ireland to two-thirds that of England. At the least, Welsh over-representation should come to an end in the next parliamentary boundary review after the Welsh Assembly has been granted full legislative powers, just as Scottish over-representation was ended in 2005."
Pe bai Gordon yn mabwysiadu'r argymhelliad mwyaf radical fe fyddai o leiaf deg o aelodau seneddol Cymru mas o waith. Fe fyddai hynny wrth reswm yn golled enfawr nid yn unig i Gymru ond i San Steffan. Gellir gweld maint eu dylanwad a'r parch tuag atynt o'r nifer sydd wedi penodi yn aelodau cabinet gan eu pleidiau. Mae 'na ddau; Peter Hain a Lembit Opik.
SylwadauAnfon sylw
Yn dilyn fy sylwadau blaenorol, tybed a fyddai llywodraeth Lafur yn San Steffan, o ddifrif, yn bygwth hunanladdiad gwleidyddol?
Byddwn yn mawr groesawu mesur a fyddai'n cynnwys y canlynol:
Neilltuo dydd Llun a dydd Gwener i faterion Lloegr (heb Llundain) a Chernyw yn unig a chadw dyddiau Mawrth, Mercher a Iau i faterion yn ymwneud ag Ewrop a'r Deyrnas Unedig.
Lleihau y nifer o aelodau seneddol yn San Steffan o Gymru (yn ddelfrydol i ddim) yn ymarferol i ddeg ar ugain.
Yn cynyddu nifer Aelodau'r Senedd o 60 i 80 AC.
Yn cyflwyno pwerau tu hwnt i rhai presennol Senedd yr Alban i seneddau yng Nghymru a Chernyw.
Yn gosod y bleidlais sengl trosglwyddiadwy fel sail i etholiadau i'r awdurdodau lleol a'r Senedd yma fel ei gilydd.
Yn mynnu dosbarthiad swyddi cabinet rhwng pob plaid sylweddol yn unol a rheolau d'Hondt (a ddefnyddir yng Ngogledd Iwerddon) a hynny lle bynnag y defnyddir sustem cabinet yn y tiroedd Celtaidd.
Helen - dwyt ti ddim yn gallu mesur hunan-bwysigrwydd aelodau cymreig Llafur San Steffan - a beth yn union yw safle Kinnock ?