Dewis Ieuan
Yfory yw dydd y dewis. Mae'n bosib mai cyfarfod grŵp Plaid Cymru yw'r cyfarfod pwysicaf yn hanes y Blaid ac y bydd y penderfyniad er da neu er drwg yn gosod patrwm gwleidyddiaeth Cymru am genhedlaeth.
Pan ddwedais hynny wrth Ieuan Wyn Jones fe wnaeth e ymateb trwy ddweud "...no pressure then".
Beth sy'n debyg o ddigwydd yfory felly? Os nad aiff rhywbeth mawr o le dw i'n disgwyl i Blaid Cymru cefnogi coch-gwyrdd. Dyma'r rheswm. Dw i'n synhwyro bod Ieuan yn reddfol yn ddyn yr enfys. Ond dw i hefyd yn amau y bydd yn gweld undod y blaid yn ffactor allweddol.
Pe bai'n gwthio am yr enfys mae'n bosib y byddai'n colli'r bleidlais neu yn ei hennill o fwyafrif bychan. Pe bai e, ar y llaw arall, yn argymell delio a Llafur fe fyddai'r mwyafrif yn fwy sylweddol.
Fe fydd y ffaith bod cefnogwyr mwyaf pybyr yr enfys yn wleidyddion mwy aeddfed a disgybledig na rhai o gefnogwyr coch-gwyrdd hefyd yn ffactor. Fe fyddai pobol yr enfys yn derbyn penderfyniad y mwyafrif. Dyw hynny ddim, o reidrwydd, yn wir am rai o aelodau'r garfan arall.
Yfory felly dw i'n amau y bydd Ieuan yn mynd yn groes i'w reddf ac yn aberthu ei uchelgais ei hun er mwyn ei blaid. Mae Ieuan wedi tyfu yn ystod hyn oll. Fe ddylai aelodau Plaid Cymru fod yn falch o'i harweinydd.