Hwn a'r llall
Y tu ôl i'r llenni y mae pethau'n digwydd heddiw cyfle i ni ddal i fyny ac ychydig o straeon eraill felly.
Gydag etholiadau'r cynulliad drosodd mae'r pleidiau wedi dechrau dewis ymgeiswyr seneddol. Draw yng Ngorllewin Abertawe mae 'na frwydr ffyrnig i olynu Alan Williams fel ymgeisydd Llafur. Mae pob math o yn cael eu gwneud ond yn sicr mae gan yr aelodau lleol ddigon o ddewis yn eu plith dwy o ymgeiswyr aflwyddiannus y cynulliad sef cyn aelod Preseli Tamsin Dunwoody ac ymgeisydd Gogledd Caerdydd Sophie Howe.
Parhau mae Martyn Jones AS yn erbyn y Mail on Sunday. Cewch wybod sut mae Martin yn clymu ei fow-tei yn.
O gwmpas y blogs. Mae yn herio agweddau'r Torïaid ynglŷn â'r iaith. Mae , , a blog "" i gyd yn trafod y sefyllfa wleidyddol ddiweddara.
SylwadauAnfon sylw
Mae'r hyn sydd gan Jill Evans i'w ddweud yn profi fy mhwynt ynglyn ag agwedd lugoer y torïaid 'Cymreig' tuag at y Gymraeg. Fel y dywedais droeon, mae'r ACau torïaidd, yn y pen draw, yn perthyn i'r un blaid â Bill Wiggins a John Redwood!