Hwn a'r llall
Tra yn San Steffan ddoe wnes i addo rhoi plyg i . Roedd safle gwreiddiol Paul yn un o'r goreuon yn nyddiau cynnar y we ac mae ei sgwennu'n hynod ddifyr. Dyma flas o'i safle newydd.
"With admiration, I salute Tony Blair the great actor and performer. He took Britain into an unnecessary war that has caused 150 British deaths, uncounted Iraqi deaths and increased the threat of terrorism throughout the planet... Who would not be crushed with the guilt of those deaths? He has the remarkable ability to convince himself of absurd conclusions. Blithely, he conflated Osama, Sunnis, Taliban and Shiites into one single group who threaten us. He would never surrender to terrorism and he is denial to atrocities that his actions have created.Next week, it’ll be Goodbye Wonder Prime Minister Blair. You’re an impossible act to follow Tony. Thank goodness!"
O son am Tony Blair dw i newydd recordio sgwrs a'r haneswyr K.O Morgan a Deian Hopkin ynglŷn â'i ddegawd yn Downing Street ar gyfer "Manylu" nos Lun nesaf. Roedd K.O yn fwy hallt ei feirniadaeth na Deian. Yn ôl K.O fe fydd Irac yn gwmwl parhaol yn y llyfrau hanes tra bod Deian o'r farn y bydd haneswyr y dyfodol yn fwy caredig na chyhoedd heddiw.
Mae'r blog yn y broses o symud i gyfeiriad newydd parhaol. Mae'n bosib y bydd angen i chi newid eich ffefrynnau ond fe ddylai'r ail-gyfeirio gweithio'n awtomatig. Os oes 'na broblemau gadewch i mi wybod.
SylwadauAnfon sylw
Rwy'n cydfynd am flog wych Paul Flynn.
Gobeithio y fyddi di yn 'migrato' yn hwylus, gan edrych 'mlaen i dy weld yn dy gyfeiriad newydd !!
Mi fydd ni yr Celtiaid cofio Tony Blair am dod a senedd i'r Alban a Cynulliad i Gymru!
Roedd yn gwelliant a'r Margret Thatcher ond efallai ddim wedi cyflawni gymaint a fydda bosib. Ormod o spin a ddim digon o sylwedd. Gawn ni weld os fydd Gordon Brown yn wahanol?