Sibrydion
Mae Jonathan Morgan AC newydd ryddhau datganiad yn cyhoeddi nad yw'n bwriadu sefyll fel ymgeisydd seneddol yn yr etholiad cyffredinol nesaf. Mae hwnnw yn benderfyniad dioddorol o gofio y byddai ganddo siawns go dda o gipio Gogledd Caerdydd i'w blaid.
Beth sy'n darbwyllo gŵr ifanc uchelgeisiol i hepgor ar y fath gyfle? Go brin ei fod yn cefnu ar San Steffan er mwyn treulio'i amser yn y cynulliad ar feinciau'r gwrthbleidiau.
Yn y cyfamser mae Peter Black yn dweud hyn ar ei;
"Judging by the activity going on behind the scenes, some of which is making the news, the rainbow coalition remains the favourite but a number of other runners are catching up fast on its blind side."
Beth yw'r "other runners" tybed? Ydy peter yn awgrymu bod rhywbeth ar y gweill rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol?
SylwadauAnfon sylw
Gadewch i mi ddeall hyn.
Mae Llafur, fel plaid go iawn, yn gwneud unrhyw beth i aros fel plaid llywodraethol tra fod Plaid Cymru yn gwneud popeth i beidio bod yn blaid llywodraethol ac i weithio o dan Lalfur?