Tesco a'r Taliban
Y tro diwethaf yr oeddwn draw yn ymweld â theulu fy mhartner ym Malaysia roedd pawb wedi eu cyffroi'n lan.
Hen le digon bach yw Batu Laut, y pentref lle maen nhw'n byw. Mae yno riw gant o dai a thyddynnod, mosg, ysgol, hanner dwsin o siopau a chaffi. Does dim byd byth yn digwydd yn Batu Laut (wel, ac eithrio un tro pan lwyddodd python i lyncu hwch feichiog... fe aeth y lluniau yna o gwmpas y byd) ond y tro hwn roedd rhywbeth mawr wedi digwydd yn Banting, y dref agosaf. Cyn cael gwneud dim byd arall rhaid oedd mynd i weld y rhyfeddod newydd.
Rhyfeddod oedd hi hefyd, reit wrth ymyl y farchnad, mor annisgwyl i'w gweld, ond eto mor gyfarwydd. Y streipiau glas, y llythrennau coch a'r croeso ". Doeddwn i ddim yn gwybod p’un ai chwerthin ai llefain oedd orau. Ydy, mae cwmni Tesco wedi cyrraedd pellafion y dwyrain pell gan ddod a'r "value range" a "Tesco Finest" i ganol y jyngl. Mae 'na wahaniaethau wrth gwrs. Dyw siopau Tesco Cymru ddim yn gwerthu pysgod a chrancod byw a does dim rhaid mynd trwy ddrws bach yr "European Delicatessen" i brynu cig moch a chwrw.
Nawr mae'n hawdd iawn bod yn snobyddlyd a nawddoglyd am y globaleiddio yma. Mae'n ffasiynol bron i gredu na ddylai pobol eraill fwynhau'r un cyfleustra a ni. Gwell yw cadw'r diwylliant brodorol pur er mwyn i ni, yn ein tro, fynd i syllu ar y diwylliant hwnnw fel twristiaid.
Yn bersonol does gen i ddim byd yn erbyn Tesco Banting er fy mod yn amau am faint y bydd yr hanner dwsin o siopau yn Batu Laut yn para yng nghysgod eu cymydog newydd.
Ac efallai bod Tesco yn fath ar genhadwr mewn gwlad sydd, yn fy nhyb i yn allweddol i ddyfodol y berthynas rhwng y byd gorllewinol a'r byd Mwslimaidd. Mae cyfansoddiad Malaysia yn gwarantu rhyddid crefyddol ac mae Eglwysi Cristnogol a Themlau Hindiwiaeth a Bwdistiaeth yn olygfeydd cyffredin. Ond Islam yw crefydd y mwyafrif (o drwch blewyn) a hi yw'r grefydd swyddogol. Mae'r cerdyn adnabod mae pawb yn gorfod cario (yr IDC) yn nodi p’un ai ydy rhyw un yn Fwslim ai peidio.
Mae beth sydd ar eich cerdyn chi yn allweddol i fywyd pob dydd. Dyw'r Mwslimiaid, er enghraifft, ddim yn cael mynediad i'r "European Delicatessen" a llysoedd sharia sy'n delio a'u materion teuluol a sifil nhw tra bod llysoedd y wladwriaeth yn delio a phawb arall. Does 'na ddim hawl gadael y ffydd chwaith. Yr wythnos hon yr hawl i wraig oedd wedi ymuno ag Eglwys Gristnogol i newid y disgrifiad ar ei cherdyn. Penderfyniad ei rhieni adeg ei gennu a'i chofrestri oedd yn cyfri nid ei safbwyntiau hi.
Fel ym mhob man arall mae arian a chenhadon ceidwadol yr Arabiaid wedi dylanwadu ar y ffydd ym Malaysia. Ugain mlynedd yn ôl roedd hi'n anarferol iawn i ferched a gwragedd Mwslimaidd orchuddio eu gwallt- nawr mae bron pob un ohonynt yn gwneud. Does neb yn eu gorfodi ond dyna yw'r ffasiwn bellach, ffasiwn sydd wedi cyrraedd o wledydd llawer mwy ceidwadol eu ffydd.
A dyma'r eironi efallai. Ar yr union adeg y mae pobol Batu Laut yn dechrau prynu eu bwyd yn Tesco mae rhai o'u harweinwyr crefyddol yn dechrau pregethu diwinyddiaeth geidwadol hen-ffasiwn sy'n estron i draddodiadau cymhedrol y wlad. Mae'n frwydr rhwng moderniaeth a'r rheini sydd am ddychwelyd i ryw rith-fyd canoloesol. Am unwaith mae hon yn frwydr dw i eisiau i Tesco ei hennill.
SylwadauAnfon sylw
Rhyfeddol! Dwi'n ymwybodol bod Tesco'n ceisio cyrraedd pob twll a chornel , ond mae'n syndod clywed eu bod eisioes wedi cyrraedd llefydd bach ac anghysbell (?) yn Malaysia yn barod.
Yr wyf yn eiddigeddus iawn o drigolion Batu Laut . Mae ganddynt Tesco. Yma, yn Aberystwyth , nid oes yr un Tesco o fewn 40 milltir ac yr ydym yn dibynnu ar y siopau bychain di-ddychymyg , di-nwydd sydd mor hoff o ganu clodydd eu hunain ond mor gyndyn o wella ac amrywio eu nwyddau. Brysied y dydd y maent yma.