³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Y cytundeb coch-gwyrdd

Vaughan Roderick | 14:03, Dydd Mawrth, 26 Mehefin 2007

Mae'r grŵp llafur wedi cymeradwyo cytundeb coch/gwyrdd o fwyafrif sylweddol. Mae'r ³ÉÈËÂÛ̳ wedi gweld copi o gytundeb drafft rhwng y ddwy blaid (nid y cytundeb terfynol).

Dyma rai o'r uchafbwyntiau;

Llafur a Phlaid Cymru ar bob lefel i gydweithio i sicrhâi senedd ddeddfwriaethol o fewn pedair blynedd.

Dim rhagor o gynlluniau PFI yn y gwasanaeth iechyd ac atal y cynllun ad-drefnu ysbytai.

Rhoi'r gorau i'r defnydd o gyfleusterau preifat gan y gwasanaeth iechyd.

Atal yr "hawl i brynu" mewn ardaloedd lle mae 'na brinder o dai fforddiadwy.

Codi 6,500 o dai fforddiadwy.

Grantiau i bobol sy'n prynu tÅ· am y tro cyntaf.

Gwell gwasanaeth rheilffordd rhwng y De a'r Gogledd.

Gwella darpariaeth addysg trwy gyfrwng y Gymraeg gan gynnwys sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg.

Cluniaduron i blant ysgol (cynllun peilot)

Deddfwriaeth i roi statws swyddogol i'r Gymraeg a hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg wrth ddefnyddio gwasanaethau.


DIWEDDARIAD PWYSIG; Mae'r cymal cyntaf wedi ei newid yn y cytundeb terfynnol. Gallai hynny fod yn bwysig!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 14:32 ar 26 Mehefin 2007, ysgrifennodd Rhun:

    Helo Vaughan,

    Oes unrhyw mwy o fanylion am y math o hawliau mewn deddfwriaeth i gael gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg? A fydd yn cynnwys y sector breifat?

    Hefyd, a oes son am Gomisiynydd i'r iaith?

  • 2. Am 15:21 ar 26 Mehefin 2007, ysgrifennodd Helen:

    Gwyyyyyyyych!!!!!! Mae hyn yn ategu'r pwynt a wnaeth Ieuan nos Wener, sef y 'shifft' sydd wedi digwydd o fewn y pleidiau Prydeinig yng Nghymru ers ychydig iawn o amser, mewn gwirionedd! Cyn datganoli, fyddai'r Blaid Lafur Brydeinig fyth wedi canmol dim byd mor flaengar. Da gweld y cynigion ar dai, addysg ac iechyd, yn ogystal â Senedd ddeddfwriaethol a'r iaith. Os bydd y mwyafrif o aelodau'r Blaid yn cytuno (a wela' i ddim pam na ddylen nhw), yna bydd hi'n hwrê fawr.

    Wedyn, ar ôl mis mêl bach, bydd y rhaglen flaengar yn cychwyn o ddifrif, gan wneud gwahaniaeth (yn ôl slogan y Blaid cyn yr etholiadau) i bobl Cymru.

  • 3. Am 15:46 ar 26 Mehefin 2007, ysgrifennodd Gasyth:

    Wedi ei newid sut?

  • 4. Am 16:24 ar 26 Mehefin 2007, ysgrifennodd David:

    Dwi ddim yn gwybod pwy sy'n cael eu holi mewn polau piniwn, ond neb dwi'n ei nabod beth bynnag.

    Cyfuniad o bolisïau coch a gwyrdd yw'r unig un sy'n wirioneddol boblogaidd hyd y gwela i, felly pob lwc i Rhodri a Ieuan.

    Pwy ddwedodd "Cymru rydd, Cymru Gymraeg, Cymru sosialaidd" gwedwch?

  • 5. Am 17:05 ar 26 Mehefin 2007, ysgrifennodd Helen:

    I ateb David, Gareth Miles bia'r llyfr hwnnw, ac fe'i hysgrifennodd yn y 70au - dogfen wirioneddol arloesol ar y pryd, sy'n eistedd ar yr un silff yn fy nhy â 'Tynged yr Iaith' gan SL.

  • 6. Am 17:38 ar 26 Mehefin 2007, ysgrifennodd Guto Bebb:

    Vaughan, beth ddigwyddodd i dy 'health warning' o ran bwriad y Blaid Lafur i weithio ar bob lefel o blaid pleidlais 'ie' mewn unrhyw refferendwm?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.