Y frwydr nesaf
Mae'r cytundeb coch-gwyrdd wedi ei arwyddo yng Nghaerdydd. Y frwydr nesaf yw honna rhwng grŵp Llafur y cynulliad a thrwch aelodau seneddol y Blaid Gymreig ynglŷn â'r cynllun. "Pistols at dawn" yn Membury neu Leigh Delemare o bosib!
Mae mwyafrif yr aelodau seneddol yn amheus ynglŷn â neu yn gwrthwynebu rhannau allweddol o'r cytundeb yn eu plith, y refferendwm, yr adolygiad o fformiwla Barnett a'r awgrym y dylid datganoli agweddau o'r gyfraith droseddol i Gaerdydd.
Mae rhan o wrthwynebiad yr aelodau seneddol wedi ei seilio ar egwyddor ond peidied neb a meddwl nad yw'r ffaith y gallai datganoli pellach arwain at dorri nifer yr aelodau o Gymru yn San Steffan yn ffactor hefyd. Tyrcwn...Nadolig ayb.
Heddiw mae Rhodri yn cwrdd ag arweinwyr cyngor Llafur i werthu'r cytundeb ac mae'n debyg y bydd rhannau helaeth ohono yn enwedig y pwyslais ar y sector gyhoeddus yn apelio atynt. Fe fydd agweddau megis ymwrthod a PFI hefyd yn fel ar fysedd rhai o'r undebau. Serch hynny peidied neb a meddwl bod cynhadledd arbennig y blaid yn y CIA yn sicr o gefnogi'r cytundeb.
Ydy Neil Kinnock yn paratoi i arwain y gwrthwynebiad? Dyna yw'r si. Ai 79 neu 97 fydd y refferendwm nesaf?
Diweddariad;Mae Peter Hain wedi ei benodi yn Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau ac mae'n cadw ei swydd fel Ysgrifennydd Cymru. Dyw Peter ddim wedi lleisio ei farn ynglŷn â'r cytundeb eto gallai ei safrbwynt fod yn allweddol.
SylwadauAnfon sylw
Dylia Neil Kinnock aros yn Brwsel, Islington, train gravey neu yn Park Jurassic, fe fydd yn teimlo llawer mwy gartrefol. Does ddim lle i pobol felly yn y Cymru newydd!
Cytuno â Carwyn Edwards yn hyn o beth - mae N Kinnock yn cynrychioli carfan o blith aelodaeth y Blaid Lafur sydd fel pe bai'n marw allan; wedi'r cwbl, mae'r hen Jorji (y gwaethaf ohonynt i gyd???) wedi marw, L Abse (gwell peidio â defnyddio ei hen lysenw yn gyhoeddus!) mewn gwth o oedran ac Alan Bach fel pe bai wedi distewi'n llwyr!
Yn ôl at y pwynt ynglyn â thorri nifer ASau San Steffan yng Nghymru pe câi'r Cynulliad fwy o rym ... er i'r Alban gael y driniaeth honno, credaf y byddai'n beth ffôl i'r Blaid Lafur wneud hynny yng Nghymru ar y funud - rhag colli'r etholiad Seneddol nesaf; wedi'r cwbl, yn hanesyddol, mae Llafur wedi dibynnu ar wledydd ymylol yr hyn a elwir yn Deyrnas Unedig i gipio grym ac yna i aros yno, felly, o safbwynt y Blaid Lafur, dwy ddim yn rhagweld hynny eto. Wrth reswm, pe bai gennym Senedd lawn, ddatgysylltiedig, a gwirioneddol annibynnol, yn ôl nod y Blaid, fyddai dim ots o gwbl pe bai Lloegr yn diweddu â llywodraeth dragwyddol las - mater i'r Saeson fyddai hynny, ond yn y fath sefyllfa, credaf y byddai rhai rhanbarthau yn Lloegr, y pryd hynny, yn gweiddi'n groch am ..... ddatganoli (er gwaetha'r bleidlais yn erbyn yn gymharol ddiweddar yng Ngogledd Lloegr)!!! Ac yn awr, rhoddaf fy mhêl grisial heibio am y tro.