Canmol a cheryddu
Gan fy mod yn teithio i Falaysia ymhen rhiw fis i ddathlu Eid fe wnes i wylio'r ceiniogau a'r carbon dros yr haf gan aros yng Nghymru fach a chymryd ambell i drip. Am y tro cyntaf ces i'r cyfle i fwynhau un o lwyddiannau mawr llywodraeth y cynulliad trwy deithio ar reilffordd Bro Morgannwg. Yn wahanol i San Steffan mae llywodraethau Caerdydd a Chaeredin wedi mabwysiadu polisïau o ail-agor rheilffyrdd i deithwyr lle mae hynny'n bosib. Ail agorwyd lein y fro yn 2005 ac yn y flwyddyn gyntaf cludwyd bron i chwarter miliwn o deithwyr ffigwr ymhell y tu hwnt i'r broffwydoliaeth fwyaf optimistaidd. Testun dathlu i'r llywodraeth felly.
Fe ddylai'r gwleidyddion bod yn llai hapus wrth weld yr hyn sy'n digwydd yn yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan. Ydych chi'n cofio'r gwleidyddion yn brolio hyd syrffed am gael gwared ar dal mynediad yn ein Hamgueddfeydd Cenedlaethol? Wel yn yr hen ddyddiau yn Sain Ffagan roedd yn rhaid talu tal mynediad...ond roedd y parcio am ddim. Nawr mae'r mynediad am ddim ond mae'n rhaid talu i barcio.
Digon tila yw'r gwasanaeth bysus i Sain Ffagan ac i bob pwrpas tal mynediad trwy'r drws cefn yw hwn. Fe dderbyniodd yr Amgueddfa dalp o arian cyhoeddus pan gyflwynwyd polisi mynediad am ddim. Ydy’r gwleidyddion yn hapus i weld y polisi hwnnw'n cael ei lastwreiddio? Fe wnâi ofyn.
SylwadauAnfon sylw
Paid mod mor crintachlyd.
Fe es i Amgueddfa Oes Fictorianaidd yn Nhelford ac roedd yn rhaid talu £8 o dal mynediad ac yn meddwl ei fod yn werth da am arian o gymharu a rhai atyniadau eraill ond roedd arlyw Cymru gystal pob tamaid
Dwi yn meddwl mae £2 y dydd yw Sain Ffagan. Bargen go iawn ddwedwn i. Os yw'r arian yn cael ei ffuddsoddi i gynnal a gwella adnoddau tydwi ddim am gwyno.
Mae yn llawer rhatach na thal pharcio mewn llawer i ysbyty a tydi rhywun ddim yn dewis mynd yno o'i wirfodd fel rheol.
monwynsyn.....rwyt ti wedi colli'r pwynt yma....!
Be wneu di o benderfyniad y toriaid yng Ngogledd Caerdydd i ddewis Jonathan Evans fel ymgeisydd seneddol?
A beth mae hyn yn olygu i'w sedd yn Senedd Ewrop?
Dewis da byswn i'n tybio, Os nad yw pethau'n mynd o le yn drychinebus i'r Toriaid fe ddyle Jonathan enill. Dyw Julie Morgan ddim wedi dweud a ydy hi'n sefyll eto. Fe gawn weld. Oherwydd y system restr yn etholiadau Ewrop gallai Jonathan barhau a mandad ddwbwl tan 2009 neu ildio'i sedd i bwy bynnag oedd yn ail ar restr y Ceidwadwyr.
Gan dy fod wedi ateb Clebryn am Etholaeth Gogledd Caerdydd mi wnaf innau son am ddewis Jonathon Evans fel darpar ymgeisydd.
Mi roeddwn i yno i sylwedu. Deallaf y derbynwyd 25 cais. Detholwyd yn gyntaf 12 ac yna 4 cyn i hynny gael ei leihau i 2 ar gyfer y fforwm agored. Roedd cyfle gan y gwrandawyr i osod cwestiwn ysgrifendig yn ogystal a'r rhestr gan y swyddogion. Mae'n debyg mae un o anfanteision y system yw y byddai gwahodd mwy na dau i'r frwydr agored yn arwain at gyfarfod hirfaith. Byddwn i wedi hoffi clywed gan fwy o'r ymgeiswyr er mwyn gweld beth fyddai'r amrywiaeth barn ac arddull rhyngddynt.
Deallaf bod dros deugain o'r tua chwigain a oed yno yn etholwyr nad oedd yn aelodau o'r Ceidwadwyr Cymreig. Roeddwn i wedi tybio y byddai hwn yn gyfle i gefnogwyr pleidiau eraill i sicrhau na fyddai Jonathon yn cael ei ddewis ond nid felly bu. Ni adnabyddais neb o weithwyr y pleidiau eraill yn bresennol.
Tybed beth dy farn ar y datblygiad hwn, a beth mae darllenwyr eraill yn medddwl o'r drefn?
Ymateb i D Thomas
Efallai y byddai y canlynol o help i egluro'rr hyn oeddwn yn geisio ei gyfleu. Roedd tocyn teulu i atyniad cyffelyb yn Lloegr yn £28 o'i gymharu a £2 am barcio yn Sain Ffagan. Sef sybsidi o £26 drwy haelioni y Cynylliad. Petai'r tal yn yn sylweddol byddwn yn meddwl bod pwynt gan Vaughan, ond grwgnach am £2 ?
O ran talu am barcio mewn Ysbyty. Bu yn rhaid i mi dalu £18 am barcio yn Ysbyty Gwynedd. Roedd yr arhosiad yn un drwy'r dydd dwi yn cyfaddef. Ni lwyddais i adael tan 2:30 y bore. Ond cefais gythgam o sioc. Yn ffodus roedd gennyf arian ac roeddwn yn falch o'r gofal ond beth am bobl eraill fyddai o bosibl yn gadael yn hwyr yn y nos ?