CF99
Wythnos i heno fe fydd ein rhaglen wleidyddol newydd CF99 yn cael ei darlledu am y tro cyntaf. Mae'n bryd felly i mi rannu rhyw faint ynghylch y cynnwys. Fe fydd y rhaglen yn cael ei darlledu'n fyw o'r Senedd bob nos Fercher ac fe fydd hi'n bosib ei gwylio yn y modd arferol ar S4C neu trwy wyrthiau'r rhyngrwyd trwy ddolen ar y blog.
Bethan Rhys Roberts a finnau fydd yn cyflwyno. Mae Bethan a finnau wedi bod yn dilyn ein gilydd o gwmpas y ³ÉÈËÂÛ̳ ers blynyddoedd ond hwn yw'r tro cyntaf i ni gyflwyno rhaglen gyda’n gilydd. Rhyw gymysgedd o "This Week" ac "After Dark" fydd y rhaglen gyda thrafod dwys ac ysgafn gyda'n gwesteion ynghyd ac adroddiadau gan ein fideo-ohebwyr.
Er mwyn cyfiawnhâi ei lle yn yr oriau brig fe fydd yn rhaid i'r rhaglen apelio'r tu hwnt i fyd yr anoracs gwleidyddol. Dwi'n weddol hyderus y byddwn yn llwyddo i wneud hynny gan ddysgu gwersi o'r ffordd y mae "Dau o'r Bae" wedi llwyddo yn yr oriau brig ar Radio Cymru. Fe gawn weld!
SylwadauAnfon sylw
CF99 yn cychwyn yn dda. Oedd hi'n braf gweld Bethan Rhys Roberts ar y teledu eto. Fel rhywun sydd yn defnyddio cadair olwyn gobeithio bydd rhywfaint o sylw yn cael ei rhoi i syniad Edwina Hart i wneud i ni yn y gogledd fynd lawr i'r de am triniaeth. Gwallgo!!