³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Hwn a'r llall

Vaughan Roderick | 18:50, Dydd Mercher, 19 Medi 2007

Noson hwyr heno yn recordio rhaglen beilot o'r gyfres wleidyddol newydd i S4C. CF99 (cod post y cynulliad) yw teitl y rhaglen newydd. Fe fydd hi'n cychwyn ymhen ychydig wythnosau. Yn y cyfamser dw i'n recordio fy mhodlediad cyntaf rhywbryd yfory ac mae "Dau o'r Bae" yn dychwelyd ar Radio Cymru Ddydd Gwener. Yn sgil ymadawiad Rhuanedd does 'na ddim sicrwydd pwy yw'r "Ddau" eto- ond fe fydd na raglen!

Mae'r cynulliad ei hun wedi ail-ymgynnull ers deuddydd bellach ac eisoes mae 'na un newid amlwg. Mae 'na gynnydd sylweddol wedi bod yn y defnydd o'r Gymraeg yn y siambr gyda nifer o aelodau oedd arfer defnyddio'r Saesneg yn bennaf yn troi at y Gymraeg. Newid yn yr hinsawdd efallai.

Ceir enghraifft arall o hynny yng Ngogledd Cymru. Am y tro cyntaf mae un o heddluoedd Cymru wedi penderfynu bod y Gymraeg yn hanfodol i fod yn blismon mewn rhai ardaloedd . Fe fydd un ar ddeg o swyddi yn Nolgellau, Pen LlÅ·n, Caernarfon, Llangefni, Bangor, Caergybi a Benllech ond yn agored i Gymry Cymraeg.

Ydy'r Prif Gopyn wedi tynnu nyth cacwn arall ar ei ben? Wel nac ydy, mae'n ymddangos. Mae'r penderfyniad wedi derbyn cefnogaeth lwyr gan Ffederasiwn yr Heddlu er ei fod yn golygu y bydd rhai ymgeiswyr di-Gymraeg, sydd eisoes wedi pasio eu profion, yn gorfod disgwyl am swyddi yn rhannau eraill o'r Gogledd.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:08 ar 19 Medi 2007, ysgrifennodd Tartini:

    Copyn carcus sy' tua'r Gog na; gwas da a ffyddlon.

  • 2. Am 07:17 ar 20 Medi 2007, ysgrifennodd Efrogwr:

    "CF99"? A finnau'r dysgwr selog yn ysu am brofiad ieithyddol pur, dwi'n cymryd mae "ec ev pedwar ar ddeg ar pedairugain" fydd ynganiad snappy enw'r rhaglen? ;-)

  • 3. Am 10:47 ar 20 Medi 2007, ysgrifennodd Vaughan:

    neu "ec ev cant namyn un" efallai!

  • 4. Am 12:28 ar 20 Medi 2007, ysgrifennodd Geraint:

    'Fy mhodlediad'? Dyna ti air.

    'Fy mhlodlediad' fydda hi i Mr Brunstrome mae'n siwr.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.