Is-etholiadau Cyngor
Canlyniadau'r wythnos hon;
Cyngor BS Caerffili
Ward Moriah
Llafur 638 (73.5 % -3.1%)
Ann. 230 (26.5%)
Plaid Cymru oedd gwrthwynebwyr Llafur yn fan hyn yn 2004 gan ennill 23.4% o'r bleidlais.
Cyngor Sir Benfro
Ward St. Michael (Penfro)
Ceid. 251 (30.6%)
Dem Rhydd 242 (29.5% -28.9%)
Ann. 184 (22.5% -19.1%)
Llafur 142 (17.3%)
Y Democratiaid Rhyddfrydol yn colli sedd mewn is etholiad cyngor- nid yn aml mae hynny'n digwydd! Doedd 'na ddim ymgeiswyr gan Lafur na'r Ceidwadwyr yn fan hyn yn 2004. Mae'n ymddangos bod gwleidyddiaeth Sir Benfro'n mynd yn fwy fwy pleidiol.
SylwadauAnfon sylw
Yn achos yr etholiad yn Sir Benfro, y ffaith amdani yw bod bron i 70% o'r rhai a bleidleisiodd wedi bwrw eu pleidlais, rywffordd neu'i gilydd, yn erbyn yr ymgeisydd buddugol! Mae hyn yn dangos gwendid cynhenid y system bleidleisio sydd gennym ac yn codi cwestiwn mawr, mi dybiwn, ynglyn â'r angen i ddiwygio ein trefn gyntefig, unwaith ac am byth.
(O.N. Byddai fy sylw yr un peth hyd yn oed pe bai'r Blaid wedi ennill yr etholiad.)
Yn achos yr etholiad yn Sir Benfro, y ffaith amdani yw bod bron i 70% o’r rhai a bleidleisiodd wedi bwrw eu pleidlais, rywffordd neu’i gilydd, yn erbyn yr ymgeisydd buddugol! Mae hyn yn dangos gwendid cynhenid y system bleidleisio sydd gennym ac yn codi cwestiwn mawr, mi dybiwn, ynglŷn â’r angen i ddiwygio ein trefn gyntefig, unwaith ac am byth.
(O.N. Byddai fy sylw yr un peth hyd yn oed pe bai’r Blaid wedi ennill yr etholiad.)