Tro ar fyd
Am y tro cyntaf ers blynyddoedd dw i'n colli'r cynadleddau gwleidyddol eleni gan adael y gwaith a'r gloddesta i eraill. Gallai hynny fod yn fendith gyda Ramadan yn cychwyn fory! Dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf fe fydd 'na gyfres o newidiadau a gwelliannau i wasanaethau gwleidyddol Cymraeg y ³ÉÈËÂÛ̳ a pharatoi ar gyfer rheiny fyddai dros y mis nesaf.
Beth fedrwch chi ddisgwyl felly? Wel yn gyntaf mae "Maniffesto" wedi dirwyn i ben a'r rhaglen wleidyddol Gymraeg yn dianc o'r geto sabothol. Fe fydd 'na raglen wleidyddol newydd yn yr oriau brig ar S4C gyda rhagor o adnoddau a steil gwbwl newydd. Mwy am hynny yn y man ond fe fydd y rheiny ohonoch chi wnaeth gwyno rhai misoedd yn ôl am ddyblygu rhwng "Maniffesto" a'r "Politics Show" yn falch i wybod na fydd hynny'n digwydd o hyn ymlaen.
Fe fydd na newidiadau yn y gwasanaeth ar lein hefyd gyda'r brif dudalen wleidyddol yn cael ei diweddaru'n amlach a phodlediadau rheolaidd. Gydag unrhyw lwc, dwi'n gobeithio cynnwys elfennau aml-gyfrwng ar y blog hefyd.
Yn y cyfamser- peidiwch â becso. Mae gen i sbeis yn y cynadleddau ac fe wnâi fy ngorau i hel y clecs i gyd!
SylwadauAnfon sylw
Swnio'n wych!