Ffwdanu am Ffermwyr
Peth peryg yw emosiwn. Roeddwn yn meddwl am hyn wrth eistedd yn oriel y senedd yn gynharach heddiw. Trafod ffarmwrs oedd y cynulliad. Mae hynny'n digwydd yn rhyfeddol o aml o ystyried maint y diwydiant amaeth ond mae'r dadleuon wastad yn dilyn yr un patrwm a phob amser yn sbri.
Yr hyn oedd yn digwydd yn ystod wyth mlynedd gyntaf y cynulliad oedd y byddai aelodau Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn baglu ar draws ei gilydd i ddarogan gwae ar ran byd amaeth gan gystadlu a'i gilydd wrth grochlefain am broblemau'n amaethwyr.
Tueddu cadw'n dawel fyddai'r aelodau Llafur gan syllu ar eu traed, wrth gytuno'n dawel fach a barn mai byw ar gefnau'r trethdalwr y mae amaethwyr Cymru.
Ta beth, fe ddechreuodd y ddadl heddiw yn y modd arferol gyda Brinle Williams yn taranu yn ei ffordd unigryw ei hunl am effeithiau helynt clwyf y traed a'r genau ar ffermwyr Cymru. Cymaint oedd pryder Brinle nes iddo faglu ar draws ei eiriau gan honni bod ein hamaethwyr "on the bank of brinkruptcy".
Yna fe ddigwyddodd rhywbeth rhyfedd. Efallai am fod ei gyd-bleidwraig Elin Jones bellach yn weinidog amaeth neu am nad yw tiroedd bras LlÅ·n ac Eifionydd bellach yn rhan o'i etholaeth fe feiddiodd Alun Ffred Jones awgrymu efallai, jyst efallai, bod Brinle'n mynd dros ben llestri braidd. Oedd, roedd rhai ffermwyr mewn trafferthion, meddai, ond roedd hynny'n wir am bobol a busnesau eraill hefyd. Onid oedd na beryg y byddai'r cyhoedd yn alaru o weld y Ffermwyr yn gofyn am gymorth cyhoeddus bod tro yr oedd rhywbeth yn mynd o le?
Gair i gall, efallai ond does dim arwydd bod 'na glustiau'n gwrando. Kirsty Williams ddaeth nesaf. Dechreuodd trwy son am y "drychineb" oedd yn wynebu ffermwyr yn sgil y clwyf. Ond nid dyna'r cyfan. Roedd effaith y digwyddiadau yn Purbright a'u heffeithiau yn "cakewalk" o gymharu'r a'r hyn sydd i ddod oherwydd y tafod glas. Fe fydd rhai yn amau bod y ffaith bod rhywbeth yn gallu bod yn drychineb ac yn "cakewalk" ar yr un pryd mwy neu lai yn profi pwynt Aelod Arfon.
SylwadauAnfon sylw
Efallai fod amaeth yn rhan fach iawn o gynnyrch cenedlaethol Cymru, ond rhaid cofio bod amaethyddiaeth yn hanfodol i barhad y Gymraeg. Dyna'r unig ddiwydiant sy'n sicrhau rhannau eang o dir lle siaredir Cymraeg fel iaith gymunedol. Mae canran uwch o weithwyr y diwydiant amaeth yn siarad Cymraeg nag unrhyw ddiwydiant arall.