Siarad plaen
Nawr, dyma i chi rhywbeth diddorol. Un o nodweddion anarferol y glymblaid ym Mae Caerdydd yw bod Plaid Cymru wedi dewis enwebu ei llefarwyr ei hun i gysgodi gweinidogion Llafur. Mae Helen Mary Jones, er enghraifft, yn siarad ar iechyd ar ran y Blaid er mai Edwina Hart yw'r Gweinidog.
Mae'r dacteg wedi bod yn un effeithiol i Blaid Cymru. Yr hyn y mae'r llefarwyr yn tueddu gwneud yw canmol penderfyniadau a chynlluniau'r llywodraeth ym Mae Caerdydd tra'n arllwys dirmyg ar y llywodraeth yn Llundain. Mae'r cymhelliad yn amlwg a'r neges i'r etholwyr yn un syml "drychwch ar yr holl bethau da mae'r llywodraeth yn cyflawni...ond meddyliwch cymaint mwy y byddai'n bosib gwneud pe bai gan y Cynulliad fwy o bwerau neu be bai Plaid Cymru mewn grym".
Hyd yn hyn mae Llafur yn y Cynulliad wedi bod yn ddigon bodlon a'r trefniant ac mae 'na fanteision i'r blaid. Yn y siambr, fel enghraifft, mae'n golygu bod llais cefnogol yn cael ei alw i ymateb i ddatganiad ac yn eu hymosodiadau ar San Steffan mae llefarwyr Plaid Cymru ond yn dweud beth mae rhai aelodau Llafur yn ei gredu.
Serch hynny mae'r lled annibyniaeth y mae Plaid Cymru'n mwynhau yn destun eiddigedd ar y meinciau Llafur. Yr wythnos nesaf dw i'n cael ar ddeall y bydd Llafur yn penodi ei llefarwyr ei hun i gysgodi gweinidogion Plaid Cymru. Does dim modd i Blaid Cymru gwyno wrth gwrs ond mae'r penderfyniad yn awgrymu rhyw faint o densiwn yn y berthynas rhwng y ddwy blaid a theimlad yn y rhengoedd Llafur bod Plaid Cymru ar hyn o bryd yn elwa'n ormodol o'r glymblaid.
Pwy fydd y llefarwyr Llafur? Wel byswn i'n tybio y bydd un o leiaf o'r Gogledd- Leslie Griffiths, o bosib, a beth am y cyn-bleidwr a chas-berson rhai cenedlaetholwyr Alun Davies? Fe gawn weld.