Lawr y lein
Mae agoriad swyddogol y rheilffordd i Lyn Ebwy wedi ei ohirio tan y flwyddyn newydd. Mae gweinidogion yn gandryll a'r cyngor lleol sy'n gyfrifol am gyflawni'r prosiect. Deallir bod y cyngor wedi addo i'r llywodraeth ddeuddydd yn ôl y byddai'r lein yn barod yr wythnos hon. Does dim byd yn syml ym Mlaenau Gwent!