Am hanes!
Un o'r geiriau hynny sy'n brysur colli ei werth yw "hanesyddol". Ar gychwyn cyfarfod ar y cyd rhwng y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ac un o bwyllgorau scriwtineiddio'r cynulliad heddiw defnyddiwyd y gair droeon. Hwn, wedi'r cyfan, yw'r tro cyntaf i aelodau seneddol ac aelodau cynulliad gynnal cyfarfod ar y cyd i scriwtineiddio cais am yr hawl i ddeddfu.
"Hanesyddol" meddai Cadeirydd y Pwyllgor Dethol, Hywel Francis ac wedi'r cyfan, fel hanesydd, fe ddylai wybod! "Hanesyddol" meddai Gwenda Thomas y dirprwy weinidog sy'n gwneud y cais. "Hanesyddol" meddai Joy Watson AC sy'n cadeirio'r cyfarfod.
Un cwestiwn bach. Os ydy'r cyfarfod yma mor "hanesyddol" pam mae cyn lleied o aelodau seneddol wedi trafferthu i droi fyny? Mae 'na un ar ddeg aelod o'r pwyllgor dethol. Dim ond tri ohonyn nhw sydd yn y Bae heddiw. Yn ogystal â Dr Francis y ddau sydd wedi trafferthu teithio i Gaerdydd yw Hywel Williams a Siân James.