Ffarwel Fidel
Mae gan Castro ei ffans yma yng Nghymru. Fedrai ddim dweud fy mod yn ymwelydd cyson a stondin Cymru Ciwba ar faes yr Eisteddfod ond mae 'na hen ddigon o'n gwleidyddion sy'n fodlon diystyried record llywodraeth Havanna ar hawliau dynol a rhyddid mynegiant wrth drafod y wlad honno.
Un o rheini yw'r Gweinidog Amgylchedd Jane Davidson. "Fe fydd ymddeoliad Castro yn golled enfawr i bobol Ciwba" yn ôl Ms. Davidson. Hi ddylai wybod. Wedi'r cyfan fe gafodd y gweinidog gyfarfod wyth awr o hyd a'r dyn ei hun gan fethu cael bron un gair i mewn wrth i'r Arlywydd bregethu.
Ar ôl y profiad hwnnw mae'n siŵr bod hi'n Rhodri Morgan yn ymddangos fel gwleidydd cynnil ei eiriau!
SylwadauAnfon sylw
Ar ol bod yn Little Havana yn Miami lle mae'r 'ceidwadwyr' o Cuba yn byw mae'n rhaid i fi ddeud eu bod yn arbenig o haerllug yn galw Castro yn unben ond mae'n nhw (ar UDA) yn anghofio sut fath o ddemocratiaeth oedd yn Cuba yn amser Batista, mi ennillodd Castro ar gefn rhyfel catref poblogaidd ac mae o wedi gneud yn arbennig o dda wrth feddwl fod yr UDA wedi bod ag embargo ar y wlad ers 1959
Mae agwedd yr UDA tuag at Ciwba, nawr ac yn y gorffennol, yn cherthinllyd, ond ar y llaw arall, prin yw'r hygrededd yng ngeiriau Penyberth wrth ddatgan fod Castro "wedi gwneud yn arbennig o dda". Hoffwn eich atgoffa fod y wlad yn berchen ar gannoedd o garcharorion cydwybod, ac yn ychwanegol, dros gyfnod a 50 mlynedd, credir ei fod yn gyfrifol an fwy o farwolaethau na'r unben Pinochet!