Iesgob!
Duw mae'r Esgobion 'ma'n bobol brysur!
Ddydd Gwener roedd Esgob TÅ· Ddewi yn canmol llywodraeth y cynulliad i'r cymylau. Heddiw Esgobion Trefynwy a Henffordd sy wedi bod wrthi yn cyhuddo llywodraeth y Bae o ystyried ideoleg yn bwysicach na buddiannau cleifion. Roedd y ddau Esgob yn cyflwyno tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig i wasanaethau traws-ffiniol.
Oes 'na sgism eglwysig i fod gyda Eglwys y Dwyrain yn ffafrio San Steffan ac Eglwys y Gorllewin yn bendithio'r Bae? Pwy fydd yn ennill y frwydr rhwng Pab TÅ· Ddewi a Phatriarch Trefynwy? Ai Don Touhig yw ein Cystennin ac os felly pwy fydd yn Romulus Awgwstws Cymru?