O Geiniog i Geiniog
Maddeuwch i mi am beidio blogio ynghylch y busnes cyflogau 'ma cyn hyn. Roedd neithiwr yn noson hir a bore 'ma'n fore cynnar! Does gen i ddim clem sut mae'r holl fusnes yn debyg o ddatblygu ond dw i'n amau nad yw rhai o'n gwleidyddion yn sylweddoli eto pa mor amhoblogaidd y bydd y codiadau ymhlith yr etholwyr. Yn wir mae'n bosib y bydd yr aelodau yn gorfod dewis yn y diwedd rhwng derbyn y codiad a thrwy hynny sicrhâi pleidlais Na mewn refferendwm a gwrthod y codiad yn y gobaith o sicrhâi rhagor o bwerau i'r cynulliad.
Nawr mewn sawl ystyr mae hynny'n annheg ond dyw'r byd yma ddim yn berffaith. Gadewch i mi ddweud i ddechrau bod 'na ddim amheuaeth yn fy meddwl i fod aelodau'r trydydd cynulliad yn gweithio llawer yn galetach nac oedd yr aelodau o dan yr hen drefn. Does dim dwywaith chwaeth eu bod yn gweithio cyn galeted ac Aelodau Seneddol os nad yn galetach.
Serch hynny peth peryg yw'r cysylltiad yma rhwng cyflogau yn y Bae a chyflogau San Steffan. Wedi'r cyfan os ydy Aelodau Cynulliad yn haeddu codiad cyflog am wneud mwy o waith oni ddylid torri cyflogau Aelodau Seneddol Cymru am eu bod yn gwneud llai? Wedi’r cyfan, ydy hi'n deg bod Aelodau Seneddol o Gymru yn derbyn yr un cyflog a lwfansau a rhai o Loegr er bod Aelodau Cynulliad bellach yn delio a'r rhan helaeth o'r gwaith o roi cymorth a chyngor i etholwyr?
Mae amseru yn holl bwysig mewn gwleidyddiaeth. Dw i ddim yn meddwl bod 'na amser da ar gyfer cyhoeddiad o'r fath yma ond mae amseriad yr adolygiad yn arbennig o anffodus. Ar ôl i lywodraeth y Deyrnas Unedig wrthod argymhellion yr ymchwiliadau annibynnol i gyflogau plismyn a'r nyrsys mae'n anodd i'n gwleidyddion ddadlau bod yn rhaid derbyn argymhellion y panel a fu'n ymchwilio i'w cyflogau nhw ddoed a ddelo.
Dyw'r addewid o adolygiad o lwfansau'r aelodau ddim yn gwneud llawer i wella pethau. Mae'n amlwg bod yr adolygiad hwnnw yn ymdrech i ychwanegu mêl at y moddion trwy awgrymu y bydd yr aelodau'n colli mas mewn rhai ffyrdd ac ar eu hennill mewn ffyrdd eraill. Dyw'r cysylltiad yna ddim yn bodoli mewn gwirionedd. Fe fydd y codiad cyflog yn cael ei ôl-ddyddio i etholiad 2007. Fe fydd unrhyw newid sylfaenol i'w system lwfansau ond yn dod i rym ar ol etholiad 2011. Mae'n bosib y byddai'r etholwyr yn fodlon derbyn sefyllfa lle'r oedd aelodau'r cynulliad yn derbyn codiadau cyflog sylweddol tra'u bod yn colli rhai o'u breintiau a lwfansau ond dim ond os oedd y newidiadau yn digwydd ar yr un pryd. Dyw cael talp o godiad nawr tra'n mwmian am ryw newidiadau aneglur rhywbryd yn y dyfodol ddim yn debyg o dycio.
Be nesaf felly? Wel yn wahanol i'r sefyllfa yn San Steffan does dim angen pleidlais yn y cynulliad er mwyn gwireddu'r argymhellion ond ar ol clochdar cymaint ar y tonfeddi radio a theledu fe fyddai'n rhyfeddol pe na bai aelodau Plaid Cymru yn ceisio codi'r mater yn y siambr. Fe fydd yr wythnos nesaf yn hynod ddifyr a dweud y lleiaf!
SylwadauAnfon sylw
Gall Aelodau Seneddol o Gymru dadlau bod nhw'n neud mwy o waith nawr, diolch i'r sistem LCO cymleth sydd wedi arwain at cyflogau uwch i ACs.
Beth sy'n ddioddorol yw fod gan nifer o AS ddigon o amser i ymgymryd a gwaith ychwangeol allannol. A dwi'n methu ddeall pam nad oes neb byth yn cwestiynnu'r arfer o ymgymryd a swyddi eraill. Os yw bod yn AS yn swydd llawn amser sut ar y ddaear bod ganddynt amser i ymgymryd a swydd(i) ychwangeol. Os nad yw'n swydd llawn amser yna mae'r cyflog yn anrhydeddus am swydd rhan amser.
Dwi ddim yn saff faint o Aelodau'r Cynulliad sydd a'r amser i ymgymryd a swyddi ychwanegol. Ni chredaf fod yr arfer mor gyffredin ond efallai fy mod yn anghywir ?
All rhywun fy ngholeuo ynghlyn a faint o ddiwrnodau mae disgwyl i AC weithio o'i gymharu a AS ? Dwi'm yn deall sut fod rhai AS yn gallu ymgymryd a swydd(i) eraill. A dwi ddim yn deall pam nad oes neb byth yn cwestiynnu'r arfer. Os ydynt yn gweithio yn rhan amser fel AS oni ddylent dderbyn cyflog rhan amser ?
Ydwi yn iawn Vaughan fod yr arferiad o 2il swydd yn llai cyffredin yn y Cynulliad gan fod disgwyl i'r aelodau fod yn bresennol yn amlach na'r AS. O ddweud hyn rhaid nodi hefyd fy mod yn amau a fyddai ambell i AC yn gallu ennill cyflog mor anrhydeddus mewn unrhyw faes arall.