Crafu Pennau
Nid peth hawdd yw llunio deddfwriaeth. Mae haneswyr yn gyfarwydd â'r "law of unintended consequences" sef y ddamcaniaeth bod unrhyw fesur sydd wedi ei lunio i gyflawni un amcan yn sicr o gael effeithiau eraill. Cafwyd engraifft o'r broblem yn y Bae heddiw.
Y bore 'ma roedd un o bwyllgorau'r cynulliad yn ystyried y "Mesur Teithio gan Ddysgwyr" sy'n amlinellu hawliau statudol rhieni i fynnu trafnidiaeth am ddim i'r ysgol i'w plant.
Mae aelodau'r pwyllgor yn awyddus i sicrhâi bod rhieni sy'n dymuno i'w plant fynychu ysgol Gymraeg yn cael hawlio trafnidiaeth am ddim ac nad yw cyngor yn gallu gwrthod darparu hynny ar y sail bod 'na ysgol Saesneg yn fwy cyfleus.
Y gwir amdani yw bod pob un cyngor yn arddel polisi tebyg yn barod ond mae'r cynulliad yn awyddus i sicrhâi nad yw cynghorau yn gallu cefnu ar hynny fel y ceisiodd Cyngor Pen-y-bont wneud y llynedd.
Y broblem sy'n wynebu'r gwleidyddion yw ceisio llunio mesur sy ddim yn rhoi hawl gyfatebol i rieni mewn ardaloedd Cymraeg ei hiaith fynnu trafnidiaeth i ysgol Saesneg neu sy'n gorfodi i gynghorau yn yr ardaloedd hynny i glustnodi ysgolion cymunedol ar sail ieithyddol. Dyw'r dasg ddim yn un hawdd ac mae pennau'n cael eu crafu!
Yn y cyfamser dyma gwestiwn i chi. Pam ar y ddaear y mae ysgolion enwadol yn cael eu galw'n "ysgolion ffydd" y dyddiau hyn? Mae pob un ysgol yng Nghymru a dyletswydd statudol i gyflwyno ffydd i'w disgyblion ac i gynnal gwasanaethau crefyddol. Nid "ffydd" sy'n cael ei ddefnyddio fel amod mynediad i'r ysgolion crefyddol ond cysylltiadau ac un enwad arbennig. Beth bynnag yw'ch barn am yr ysgolion hyn oni ddylid defnyddio term sy'n ddisgrifiad cywir yn hytrach nac arddel iaith marchnata?
Diweddariad; Pleidleisiodd y pwyllgor o blaid ymestyn hawliau teithio am ddim i rieni sy'n dymuno i'w plant fynychu ysgolion enwadol ar ôl i Ann Jones anwybyddu'r chwip ac ochri gyda'r gwrthbleidiau. Gwrthodwyd gwelliant tebyg ynghylch ysgolion Cymraeg.