Hen Hanes
Mae gwrando ar gwestiynau i'r Prif Weinidog ar brydiau yn gwneud i rywun gydymdeimlo a chymeriad Bill Murray yn Groundhog Day wrth i ni ail-fyw'r un hen ddadleuon dro ar ôl tro. Ers wythnosau bellach bu Nick Bourne yn ceisio colbio Rhodri Morgan ynghylch cyflwr yr economi. Dyw'r ymdrechion hynny ddim wedi achosi rhyw lawer o drafferth i'r Prif Weinidog ond yn ddieithriad mae rhyw aelod Llafur neu'i gilydd (Alun Davies, gan amlaf) yn codi ar ei draed i lambastio'r llywodraeth geidwadol ddiwethaf. Y gred, mae'n debyg, yw bod Margaret Thatcher a'i chriw o hyd yn rhyw fath o fwgan ymhlith etholwyr Cymru.
Cafodd Alun Davies hoe fach heddiw gan adael i Jeff Cuthbert godi'r bwgan Thatcheraidd ond pa mor effeithiol yw hwnnw erbyn hyn? Wel efallai dylai Jeff ofyn y cwestiwn hwnnw i grwt o'i etholaeth. Heddiw gwerthwyd y peldroediwr Aaron Ramsey o Gaerffili i Arsenal. Beth yw ei deimladau fe am Thatcher, tybed? Go brin fod ganddo fe nac unrhyw aelod arall o'i genhedlaeth unrhyw farn. Cafodd Aaron ei eni ym Mis Rhagfyr,1990 mis ar ol i Mrs Thatcher adael Downing Street. Mae 'na beryg i Lafur anghofio bod Thatcher yn ffigwr yr un mor ddiarth ac amherthnasol a Lloyd George neu Churchill i nifer cynyddol o bleidleiswyr.
SylwadauAnfon sylw
Mae gen i ffrind, 23 oed, sy ddim yn gwybod i ba plaid oedd Thatcher yn perthyn.
Efallai bod genedlaeth hÅ·n (y rhai sy'n gwneud y trafferth i bleidleisio) yn cofio, ond pwy ofynnodd Thatcher draw am baned y llynedd? Gordon Brown, arweinydd y Blaid Lafur, neb llai.
Ysgrifenodd Richard Wyn Jones golofn hynod ddifyr am hyn yn Barn llynedd - "waving the bloody shirt" yw'r term Americanaidd am y math yma o wleidydda, ymadrodd sy'n cyfeirio at arfer y Gweriniaethwyr ar ddiwedd y 19fed ganrif o gyfeirio yn ddi-ddiwedd at golledion y Rhyfel Cartref pan yn ceisio denu etholwyr taleithiau'r gogledd.
Mae angen sicrhau bod plant yn dysgu hanes cymharol ddiweddar y Deyrnas Unedig - hanes diweithdra, hanes dinistrio'r diwydiant glo, hanes llwgu awdurdodau lleol mewn ymgais i ladd democratiaeth leol, hanes preifateiddio (yn cynnwys gwasanaethau glanhau ysbytai, gan osod y seiliau ar gyfer yr holl heintiau sy'n bygwth cleifion yr oes sydd ohoni), hanes cyflwyno treth y pen heb ymgynghoriad llawn, hanes ad-drefnu llywodraeth leol heb ymgynghoriad llawn ..... gallai'r rhestr fod yn ddi-ddiwedd. Yn wyrthiol, rÅ·n ni yma o hyd. Mae'n amserol iawn fod ³ÉÈËÂÛ̳4 yn dangos cyfres o raglenni ar hanes yr union gyfnod hwnnw - byddai'n syniad da i bobl ifanc eu recordio i'w gwylio'n ddiweddarach os ydynt yn rhyw hwyr. Os na fydd plant yn dysgu am y cyfnod anffodus hwn mewn hanes, y perygl mawr yw y gallai rhywbeth tebyg ddigwydd eto. Nid yw'r llywodraeth Lafur sydd gennym ers 1997 wedi llwyddo i ddad-wneud holl niwed y blynyddoedd hynny - mae'n wir fod y sefyllfa waith wedi gwella a bod mwy o optimistiaeth fod pobl ifanc yn mynd i gael hyfforddiant a swydd ar ôl gadael addysg lawn-amser, ond mae llawer iawn i'w wneud o hyd, ac yn y cyfamser, yn rhannol, o leiaf, oherwydd bod llywodraethau Torïaidd y gorffennol wedi llwgu awdurdodau Heddlu, mae llai o orsafoedd Heddlu, a dalgylchoedd y rhai sydd ar ôl, o ganlyniad, yn llawer rhy eang. O ganlyniad, mewn rhai lleoedd, mae ymddygiad gwrthgymdeithasol gan leiafrif o bobl ifanc yn rhemp. Nid yw'r sefyllfa sy ohoni'n berffaith, felly, ddim ar unrhyw gyfrif, ond gallai fod filwaith gwaeth dan lywodraeth dorïaidd. Efallai ei bod yn bryd, felly, i rai athrawon hanes dorchi llewys ac addysgu eu disgyblion.