Mae dewis a dethol yn rhan hanfodol o newyddiadura. Pa stori i redeg? Pa ddyfyniad i gynnwys? Beth sydd o ddiddordeb a beth sy ddim? Yn anorfod efallai mai 'na ambell i hanesyn diddorol yn syrthio trwy'r rhwyd- yn enwedig rhai o dramor. Dyma i chi un a allai fod yn berthnasol i ni.
Draw yn Seland Newydd mae'r llywodraeth newydd . Roedd y wlad honno wedi mabwysiadu system ddigon tebyg i'r un sy'n bodoli ym Mhrydain gyda'r trac ei hun yn eiddo cyhoeddus a'r gwasanaethau'n cael eu rhedeg gan gwmni preifat. Dyma esboniad y gweinidog cyllid.
"The Government will now avoid paying subsidies to third parties and we also avoid the on-going disputes ...which had the potential to destroy value in the business and erode the morale of the people who work in it."
SylwadauAnfon sylw
Stroi ddiddorol, er erbyn hyn, dim ond rheilffordd i ddefnyddwyr cyffredin sydd yna bellach yn y wlad mwy na heb.
Dwi'n cofio darllen erthygl mewn 'spnoseored suppliment' yn y Guardian tua dwy flynedd yn ôl, a oedd wedi ei noddi gan lywodraeth Rwmania, ble roeddynt yn sôn am breifateiddio nifer o sefydliadau gan gynnwys y Rheiffordd gan ddilyn yr esiampl wych a llywddiannus Prydain - prin allwn beidio a chwerthin.
Bore 'ma ar y trên, clywais i ryw ddyn busnes haerllug o Lundain yn cwyno am safon y rheilffordd yng Nghymru i gymharu a system wych Llundain.
Efallai fase'n well i'r bobl 'ma edrych yn nes adre cyn cwyno am 'the regions' - dwi'n clywed digon o gwyno am y Tube, sydd wrth gwrs wedi .