Pechadur Penna
Mae'n stori ryfedd. Pam yn union wnaeth Rhodri Glyn ymddiswyddo- neu i fod yn fanwl gywir pam yn union wnaeth Ieuan Wyn ofyn am ei ymddiswyddiad? Wedi'r cyfan dyw cerdded mewn i dafarn gan anghofio bod sigâr yn eich llaw ddim yn drosedd ddifrifol. Fe fyddai torri'r gwaharddiad ar ysmygu yn fwriadol neu wrthod diffodd sigarét yn fater gwahanol ond hyd y gwn does neb wedi cyhuddo'r gweinidog o'r naill drosedd na'r llall.
Beth ddigwyddodd felly?
Wel, gadewch i ni droi'r cloc yn ôl. Roedd penodi Rhodri Glyn yn weinidog yn gambl i Ieuan Wyn ac roedd e'n gwybod hynny. Heb os roedd ei ddirprwy yn wleidydd galluog a lliwgar ac yn llwyr abl i wneud y gwaith. Bod yn rhu lliwgar oedd y broblem. Roedd gan Rhodri enw drwg am beidio â rheoli ei yfed. Doedd neb yn credu, a does neb yn credu fod ganddo fe broblem hynod o ddifrifol dim ond bod un gwydr yn arwain i'r nesa ar adegau a bod hynny yn arwain at gur pen ac edifeirwch yn y bore.
Dyw hynny ddim yn beth mawr. Mae'r rhan fwyaf ohonom wedi'n canfod ein hun yn yr union sefyllfa. Yr hyn sy'n sicr yw y byddai Ieuan wedi gofyn am addewid gan Rhodri na fyddai hynny'n digwydd pe bai'n cael ei benodi i'r cabinet. Mae'n ymddangos bod Rhodri wedi llwyddo i argyhoeddi Ieuan gan fod arweinydd Plaid Cymru yn ddigon hyderus yn ei gylch i addo i Rhodri Morgan na fyddai'r Gweinidog Treftadaeth newydd yn achosi unrhyw drafferth.
Felly y bu pethau tan y smonach yn Seremoni Llyfr y Flwyddyn. Does 'na ddim tystiolaeth o gwbwl bod a wnelo'r dryswch yn y digwyddiad hwnnw unrhyw beth ac yfed. Yn wir mae'r holl dystiolaeth yn awgrymu'r gwrthwyneb. Roedd cyfaill i mi yn eistedd ar yr un bwrdd a Rhodri Glyn yn ystod y seremoni. Mae fe'n tyngu bod y Gweinidog yn gyfan gwbwl sobor a dw i'n ei gredu. Serch hynny fe wnaeth digwyddiadau'r noson honno atgoffa'r dosbarth gwleidyddol o'i broblemau yn y gorffennol. Yn yr ystyr hynny fe roddodd y Gweinidog ei hun yn ôl "ar brawf". Y peth olaf yr oedd e'n gallu ei fforddio oedd cael ei weld o dan ddylanwad y ddiod yn yr wythnosau rhwng y noson wobrwyo a gwyliau'r haf.
Dyna ddigwyddodd yn nhafarn yr Eli Jenkins nos Fercher. Sgwarnog yw'r sigâr- a dyna chi frawddeg.
SylwadauAnfon sylw
Y George Brown Cymraeg ta Vaughan!!
Piti na fedrith Vaughan ddweud y cyfan am ymddygiad Rhodri Glyn yn y dafarn. Ai ofn ydio y byddai'r gwir llawn yn troi'r sbotleit ar ymddygiad y wasg hefyd?
Mae hyn yn dangos gymaint y mae safonau wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ar un adeg, roedd yn berffaith dderbyniol i gynrychiolwyr etholedig smygu ac yfed yn y gweithle - Churchill sy'n dod i'm meddwl i. Fodd bynnag, mae'r dyddiau hynny ar ben, diolch, yn rhannol, i ddylanwad Llafur Newydd yn San Steffan, fel bod angen i rai sydd mewn swyddi cyhoeddus, beth bynnag fo eu sefydliad, gadw at reolau mwy caeth, hyd yn oed y tu allan i'w horiau gwaith. Dyma'r sefyllfa sydd ohoni, yn gam neu'n gymwys.
Enghraifft eithafol oedd George Brown yn ystod dyddiau Wilson yn y 60au - yn fwy diweddar, does dim rhaid edrych ond ar hanes truenus Charles Kennedy i gofio'r hyn a all ddigwydd i rai sydd, yn ôl tyb y bobl o'u cwmpas, weithiau'n mynd dros ben llestri. Ymddengys ei bod yn anodd iawn yn yr oes sy ohoni i rywun sydd yn llygad y cyhoedd gadw'r dysgl yn wastad bob amser, felly mae gen i dipyn o gydymdeimlad â Rhodri Glyn, sydd â'i galon yn y lle iawn. Un llithriad bach oedd y sigâr - trueni bod y digwyddiad wedi cyrraedd y wasg a'r cyfryngau.