Smith Square Cymru
Am flynyddoedd lawer Smith Square, Westminster oedd canolbwynt bywyd gwleidyddol Prydain gyda phencadlysoedd y Ceidwadwyr a Llafur yn wynebu ei gilydd ar draws y sgwâr. Y tafarn cyfagos y Marquis of Granby oedd un o'r llefydd gorau i glywed clecs gwleidyddol. Y "Ted" oedd llysenw'r dafarn ymhlith y Cymry yn San Steffan gan fod 'na rhyw debygrwydd rhyfedd rhwng y llun o'r Marquis ar arwydd y tafarn a Ted Rowlands Aelod Seneddol Merthyr. Symudodd Llafur o Tranport House yn y sgwâr chwarter canrif yn ôl a gadawodd y Ceidwadwyr rhyw bum mlynedd yn ôl. Dim ond y Democratiaid Rhyddfrydol sydd ar ôl ac mae eu swyddfeydd nhw tafliad carreg o'r sgwâr ei hun yn Cowley Street.
Nawr, mae'n ymddangos y gallai tafarn y "Wharf" yng Nghaerdydd ddatblygu'n rhyw fath o "Ted" Cymreig. Y Mis hwn mae Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn symud eu pencadlysoedd i Schooner Way i adeiladau sydd o fewn tafliad carreg i'w gilydd. Gyda'r Ceidwadwyr yn ystyried gwerthu eu pencadlys yn yr Eglwys Newydd (eto!) a chynlluniau ar y gweill i ail-ddatblygu'r adeilad undebol lle mae Llafur Cymru yn llechu a fydd y pedair plaid yn gymdogion cyn bo hir? Y "Wharf" amdani felly. Mae'n saffach na'r Eli Jenkins!