Ambell gwestiwn
Mae Nick Bourne yn cerdded arfordir Penfro heddiw. Er nad yw e'n dychwelyd galwadau ffôn mae 'na bwysau arno i ddychwelyd i Gaerdydd o du ei gefnogwyr yn ogystal â'i wrthwynebwyr ar y meinciau Ceidwadol.
Mae'n debyg bod 'na bedwar cwestiwn y mae'n rhaid i Nick eu hateb. Gallai ei ddyfodol fel arweinydd dibynnu ar ei atebion. Dyma nhw;
1. Ydy hi'n wir, fel mae rhai o fewn y blaid yn mynnu ei fod wedi cymeradwyo ("signed of") y ddogfen yn ymosod ar Rhodri Morgan cyn ei chyhoeddi? Os na wnaeth e pwy roddodd yr hawl i swyddogion y blaid ryddhau dogfennau yn enw'r arweinydd heb ymgynghori ac ef?
2. Os oedd e wedi cymeradwyo'r ddogfen oedd e wedi ei darllen cyn gwneud hynny?
3. Os ydy'r ateb i gwestiwn dau yn gadarnhaol- sut mae'n cyfiawnhau rhoi'r bai am y cynnwys ar swyddogion y Blaid?
4. Os ydy'r ateb i gwestiwn dau yn negyddol. Ydy hi'n arferol i'r arweinydd beidio darllen dogfennau y mae'n eu cymeradwyo?
SylwadauAnfon sylw
i hope that nick bourne will make it thru the crisis.
Clywed yn y papurau bore ma fod Nick wedi newid ei diwn ac wedi cymeryd cyfrifoldeb am 'y dirty dossier' yma. Dwi ddim siwr be oedd ei gem ond mae o'n cael ei bortreadu ei fod o wedi colli'r plot!! Wnaiff hyn ddim lles i ddyfodol ei arweinyddiaeth o.