Iâ wir
Dal i dyfu mae'r rhestr o gynghorau a allai golli arian oherwydd tranc banciau Gwlad yr Iâ. Pwy fysai'n meddwl y byddai'r Cardis o bawb yn canfod eu hun yn y fath sefyllfa? Dyw e hi ddim yn beth call i geisio elwa'n wleidyddol o'r sefyllfa. Wrth ymateb i'r newyddion y gallai cyngor Llafur Rhondda Cynon Taf golli tair miliwn o bunnau dyma oedd gan Chris Franks o Blaid Cymru i ddweud;
When I was a councillor I met with local authority treasurers, my first question was always 'are you sure the money is invested in a safe haven rather than in accounts that paid the top interest rates'. I would hope members of local authorities in Wales would have asked similar questions.
Digon teg. Fe wnaeth Chris ei sylwadau cyn i ni wybod bod Cyngor Caerffili wedi buddsoddi pymtheg miliwn o bunnau yng Ngwlad yr Iâ llai na thri mis yn ôl. Tybed oedd Lindsay Whittle wedi dilyn cyngor ei gyd-bleidiwr?
SylwadauAnfon sylw
Mae'n amheus gennyf os oedd gan y swyddogion ariannol yr awdurdodau yng Nghymru y syniad lleiaf pam oedd graddfeydd llog banciau gwlad yr ia yn artiffisial o ochel, a chymaint o swigen oedd yn cael ei greu. Maent oll wedi dilyn y pibydd brith. Yn y cyfamser, mae'r cynulliad yn parhau i gyhoeddi un syniad hurt ar ol y llall mewn addysg, gan adael ysgolion i chwilio am friwsion. Ychydig iawn o drafodaeth am addysg wyt ti'n gymell, Vaughan. Pwy sy'n gyfrifol am y blaengareddau sy'n cael ei cyhoeddi a'i newid yn ddyddiol ? Y gwenidog ? Y gweision sifil ? Y 'pencampwyr dysgu' bondigrybwyll o ben draw'r byd ?
Chwarae teg i Chris am fod mor drylwyr, rhaid i fi ddeud fuas i ddim mor gydwybodol fel Cynghorydd Sir ond dwi'n falch o ddeud nad oedd raid i ni boeni yn y Cyngor Sir yma, yn wahanol iawn i Lindsey Whittle yng Nghaerffili. Hwyrach mi fuasa'n well syniad i Chris Franks gau ei geg ar hyn o bryd.
Beth sy'n dwp yw sut mae'r sefyllfa i'w ddatrys. Y llywodraeth yn rhoi arian i fanciau Gwlad yr Ia i dalu ni yn ol!Pam na alle nhw rhoi'r aria i ni yn uniongyrchol? A bethoedd yr arian yn gwneud yng Ngwlad yr Ia yn y lle cyntaf?