No-brainer
Ydy'r Gweinidog Treftadaeth yn dechrau colli amynedd ynglÅ·n ag arafwch y broses o wireddu'r LCO iaith? Mae'n ymddangos felly. Y bore 'ma mynnodd Alun Fred Jones y byddai'r gorchymyn yn cael ei gyhoeddi cyn y Nadolig ond roedd ei rwystredigaeth yn amlwg.
Mae'n amlwg bod y Gweinidog o'r farn bod 'na ormod o drafod ynglÅ·n a manylion y mesur a bod yr egwyddor sylfaenol yn cael ei anwybyddu. Dyma'i union eiriau;
Fedrwch chi ddadlau ar y cyrion ond y pwynt yw hyn. Yn fan hyn y dylai deddfwriaeth iaith gael ei llunio. Pwy ddylai ddeddfu ynglŷn â'r iaith- San Steffan lle dim ond criw bach sy'n deall y cyd-destun ymhlith cannoedd o aelodau neu fan hyn lle, beth bynnag yw'n barn ni, o leiaf mae'r cyd-destun yn cael ei ddeall? Mae'n no-brainer yn fy marn fach i!
Mae'n ymddangos bod y Gweinidog yn llai brwdfrydig ynglÅ·n ag un o gynlluniau eraill y llywodraeth- y bwriad i osod dyletswydd statudol ar gynghorau lleol i hyrwyddo diwylliant. Cyfaddefodd fod hynny'n achosi problemau mewn cyfnod pan mae arian yn brin.
Mae 'na ddau beryg yn ôl y gweinidog. Yn gyntaf yn ei eiriau ei hun "sut fedrwch ofyn i bobol wario arian sy ddim yn bod?". Yr ail broblem yw'r peryg y byddai cynghorau sydd ar hyn o bryd yn gwario'n sylweddol ar ddiwylliant yn defnyddio'r canllawiau i gwtogi'r ddarpariaeth i'r isafswm y mae'r mesur yn gorchymyn.
Mae hon yn broblem go iawn . Dyma i chi enghraifft ohoni. Yn draddodiadol roedd Cyngor Abertawe yn gwario'n helaeth ar amgueddfeydd ac orielau fel y Glyn Vivian, yr Amgueddfa Ddinesig a'r hen Amgueddfa Forwrol. Y rheswm am hynny oedd nad oedd y ddinas yn gartref i'r un sefydliad cenedlaethol. Doedd Cyngor Caerdydd, ar y llaw arall, ddim yn gwario'r un ddimai goch gan fod yr Amgueddfa Genedlaethol a Sain Ffagan yn cael ei hariannu o goffrau canolog.
Mae'r sefyllfa wedi newid ychydig erbyn hyn. Mae Amgueddfa'r Glannau yn Abertawe yn rhan o'r Amgueddfa Genedlaethol ac mae Caerdydd yn datblygu cynlluniau ar gyfer Amgueddfa Ddinesig. Fe fyddai Cynghorwyr Caerdydd hefyd yn dadlau eu bod yn gwario'n helaeth mewn meysydd diwylliannol eraill megis ar theatrau a neuaddau cyngerdd. Y broblem yw sut mae mesur a chymhwyso gwariant presennol y gwahanol gynghorau- acyn a gosod canllawiau ar gyfer y dyfodol?
Oes 'na beryg yw y byddai gosod canllawiau ar gyfer lefel y ddarpariaeth yn gwella'r sefyllfa mewn llefydd fel Caerdydd ond yn gwneud y gwrthwyneb mewn ardaloedd fe Abertawe? Dyna, mae'n ymddangos, yw ofn y Gweinidog.
SylwadauAnfon sylw
Er tegwch, mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe yn cyfrannu arian sylweddol iawn at Amgueddfa'r Glannau, ac yn dal i gynnal y Glynn Vivian ac Amgueddfa'r Ddinas. Trwy wneud hynny, maen nhw wedi llwyddo i ddenu Amgueddfa wirioneddol arbennig i'r ddinas, ay'n llawer, llawer gwell na'r hen amgueddfa. Hynny yw, hyd yn oed os ydynt wedi cwtogi ar y gwariant (a dydw i ddim yn siwr eu bod wedi gwneud) maent wedi buddsoddi'n gall. Gyda llaw, os ydych am brofiad swrreal, mae'n werth mynd i stordy Amgueddfeydd Abertwae, mewn sied ger y Morfa. mae yno bob math o bethau rhyfedd ac od yno driphlith draphlith, o ben a gwddw jiraff i gerbyda crand. Mae fel rhywbeth allan o ffilm swrrealaidd Ffrengig.
Mae'r gweinidog treftadaeth i'w ganmol ar ei bolisi. Mae gorfodi cynghorau i wario arian ar ddiwylliant mewn cyfnod o ddifyg cyllideb yn ffol os mae'n golygu fod y gwasanaethau craidd yn mynd i ddioddef o ganlyniad i hyn. Mae y deddf iaith yn rhan allweddol o gytundeb Cymru'n Un nad yw'n cael llawer o sylw yn y wasg. Mae sylw y gweinidog yn gwneud synnwyr pwy yn San Steffan sy'n deall sefyllfa'r iaith?