Troi'r awyr yn las
Fe allai hon fod yn stori fawr- ac yn fan hyn mae hi gynta!
Mae rhai o Dorïaid y cynulliad wrth yddfau ei gilydd.
Ddydd Sul fe ryddhaodd y Blaid ddogfen yn croniclo ffaeleddau honedig Rhodri Morgan gan gynnwys sylwadau am ei ymarweddiad a'i ddillad.
Heddiw mae Nick Bourne wedi datgysylltu ei hun o'r ddogfen. Ar Radio Wales dywedodd ei fod wedi siarad â Rhodri Morgan i glirio'r awyr a bod y ddogfen yn "mynd yn rhy bell".
Mynnodd mai'r blaid oedd yn gyfrifol am y ddogfen nid fe ei hun.
Y broblem? Cyhoeddwyd y ddogfen yn enw Nick Bourne ac mae ffynonellau o fewn y blaid yn mynnu ei fod wedi ei darllen ac wedi ei chymeradwyo. Fedrai ddim dweud wrthoch chi pa mor grac y mae rhai o'r Ceidwadwyr ynghylch hyn.
SylwadauAnfon sylw
Ah, dyna wneud fy mhrynhawn! Fydd hi'n ddiddorol gweld sut mae'r gwynt yn chwythu ar hyn