Abergeirw
Rhai blynyddoedd yn ôl er mwyn arbed arian fe roddodd nifer o bapurau'r gorau i gyflogi cartwnydd gan argraffu lluniau gan eu darllenwyr i lenwi'r gwagle . "Postcards" yw enw'r Western Mail ar yr eitem ddyddiol hon.
Mae 'na glasur yn y papur heddiw (ond nid ar y we yn anffodus). Llun yw e o Ysgol Abergeirw ger Dolgellau ac os buodd yna adeilad mwy di-nod mewn lle mwy diarffordd erioed dw i ddim yn gyfarwydd ag e. Mae'n werth prynu'r papur jyst i syllu ar yr adeilad un ystafell yma yn sefyll yng nghanol cae.
Byswn yn becso fy mod mewn peryg o bechu pobol Abergeirw trwy sgwennu hwn. Ond dw i'n weddol hyderus na fydd modd iddyn nhw ddarllen fy ngeiriau. Dyw'r cyflenwad trydan ddim wedi cyrraedd Abergeirw eto.
Gwell i mi ddweud hwnna eto. Dyw trydan ddim wedi cyrraedd Abergeirw. Mae'n debyg bod Menter Ynni Abergeirw yn cynnal trafodaethau a MANWEB. Yn y cyfamser mae'n rhaid dibynnu ar y generadur neu'r .
Dydw i erioed wedi bod i Abergeirw. Rwy'n ysu mynd! Mae'n debyg y byddaf yn darganfod lle digon tebyg i Grai yn Sir Frycheiniog lle mae rhai o fy nheulu yn ffarmio. Mae 'na drydan yng Ngrhai ac Eglwys a Neuadd Bentref. Mae 'na gapel ar ochor arall y cwm. Does 'na ddim ysgol, siop na Swyddfa Bost. Mae'n rhaid mynd i Bont Senni neu Aberhonddu am bethau fel 'na. Fe wnes i raglen o Grai ryw dro a Llŷr Roberts yn cynhyrchu. Sylwodd un hen ledi ar ei acen ogleddol ac ymhyfrydu yn y ffaith bod gogleddwr wedi pregethu yn y capel rhyw dro. Doedd hi ddim yn sicr os oedd hynny cyn neu ar ôl y rhyfel.
Mae 'na bwynt i hyn oll. Mewn gafodd fawr o sylw rhai wythnosau yn ôl cyhoeddodd Elin Jones ei bod wedi comisiynu ymchwil i anghenion llefydd gwledig anghysbell. Ym marn y gweinidog mae'r anghenion hynny wedi eu hanwybyddu yn y gorffennol wrth i'r Gymru wledig cael ei thrin fel un uned gyda'r un problemau a'r un anghenion. Fe fydd yr ymchwil yn canolbwyntio ar bedwar pentref sef Llanfihangel-yng-Ngwynfa a Llangamarch ym Mhowys, Tegryn yng ngogledd sir Benfro ac Aberdaron.
Pam mae'r ardaloedd yma wedi eu hanwybyddu cyhyd? Mae gan Nerys Evans un esboniad "nid yw poblogaeth yr ardaloedd hyn yn fawr ac, felly, mae llai o gwyno ganddynt". Mae 'na esboniad arall. Does 'na ddim llawer o bleidleisiau yng Nghrai nac Abergeirw!
SylwadauAnfon sylw
Mae'n fy synnu i fod Tegryn yn un o'r pentrefi 'ma a ddewiswyd. Mae garej yno....a Swyddfa Post...wel mi roedd tua 2 flynedd yn ol. Mi roedd tafarn yno hefyd. Mae Crymych rhyw 3 milltir i ffwrdd.....a Llanfyrnach llai fyth lle mae un o gyflogwyr mwya'r alrdal wedi ei leoli....sef Mansel Davies. Dim rant....dim ond dweud fod Tegryn ymhell o fod yn anghysbell. Ond ta beth....whare teg i Elin Jones am beidio anghofio'r bobl 'ma.
Rhag dy gywilydd yn pigo ar Abergeirw, mae'n lle bach bendigedig. Clêm tw ffêm Abergeirw ym mae un a fagwyd yn y pentrefan, ac a addysgwyd yn yr ysgol, yw'r bardd a nofel-wraig Nesta Wyn Jones.
Diawl, Alwyn. Roeddwn i'n ceisio cyfleu bod Abergeirw yn swndo'n nefolaidd i mi! Doeddwn i ddim yn pigo ar y lle!
Pan oeddwn i'n fach yng nghanol yr 80au, roeddwn i'n mynd ar fore dydd Iau i grŵp Mam A'i Phlentyn yn Rhydygorlan. Mae Abergeirw 9 milltir o fy nghartref yn Nolgellau ar hyd lonydd cefn gwlad, ac roedd y siwrne yn teimlo mor epic (i blentyn 3 oed) fel bod yn rhaid i mam ddod â phacedi o Hula Hoops i'n diddanu ar y ffordd adre. Atgofion melys!