Cwis
Mae Dewi wedi gofyn am gwis. Pwy yw fi i wrthod? Fe fyddaf yn defnyddio synnwyr cyffredin wrth gyhoeddi sylwadau ac atebion er mwyn rhoi cyfle i bawb. Yr atebion llawn ar Ragfyr 26.
Mi ydych yn chwilio am ddeg o bobol neu bethau ac yna rhywbeth neu rhywun sy'n eu cysylltu.
1.Perchennog yr unig gyfri banc masnachol y mae Banc Lloegr yn darparu.
2.Yr un honnodd nad yw cariadon yn ymddiheuro.
3.Un arall oedd yn caru curry.
4.Y rheswm wnaeth y Frenhines Victoria boicotio Manceinion.
5.Ysgol yn Rhiwbeina
6.Twll d*n o senedd.
7.Y Cymro o Rhiw-Saeson.
8.Tân yn Sir Gar.
9.Cyflafan yn yr Iwerddon.
10."Dic" o frenhines
Does neb wedi cael 2 yn gywir eto. Enw'r ffilm a'r cymeriad plis.
SylwadauAnfon sylw
Fflipin hec Mr Roderick, ble mae'r 'hint button' am y 'thing' hyn.. ?
'Thinking caps on' fel roedd yr athro yn gweud yn yr ysgol ers talwm..
p.s. Os ydy'r 'spin' fod arholiadau ddim yn rhwyddach nawr na blynyddau yn ol, a mae safonau yn cael eu cadw yn uchel - Pam nad oes unrhyw bobl yn eu arddegau ar 'Brain of Britain' efo Robert Robinson ?
Oce un hint ... mae'r ateb i rif un yn un yn ymwneud a stori newyddion heddiw...rhywbeth ynghylch anifeilaid a labordai!
Asgob, mae hwn yn 'google-proof' hefyd.
1/ Rhywbeth i wneud a Northern Rock fyddai'n ni'n meddwl, am fod y 'rest' wedi cael eu gwerthu bant i rhywun dylai fod yn gwybod gwell [hbos, Bradford a Bingley ac ati]
2/ Ges fi fyddai Edwina Currie, am fod y gair hynny yn cwestiwn 3 ?
3/ John Prescott rwy'n meddwl ond dwi ddim yn siwr pam..
Aha - wnaf ddim dweud mwy, i adael i rhai arall gael siawns - ond rwy'n deall nawr pam fyddai eisiau hwn.
9/ Hmm.. Ddim yn siwr - 'naeth y bleidais yn erbyn 'Lisbon' achosi helbul, ond nid wyf yn siwr mae hwn ydy ystur 'cyflafan', ond nid wyf ar bwys geiriadur ar y funud.
7/ Dim cliw. ond 'ges' fyddai Ray Gravell, gan fod ei stryd wedi cael ei ail-enwi..
8/ Rwy'n dowto fod y tan yn nhoiledau Llansteffan yn cownto, ond mae cloch yn canu rhywle.. Rhyw 'insurance job' efallai ?
10/ Gan fod Louis Mountbatten wedi ei golli os rhai blynyddoedd gallwn gymeryd nad unrhywbeth i wneud ag ef yw hyn ?
Os nad all di weud, mae'n siwr gallwn 'ass-u-me'o taw pethau ddigwyddodd yn y flwyddyn diwethaf ydyw'r atebion ?
O dy holl atebion mae un yn gywir. Cofiwch nid cwis ynghylch y flwyddyn ddiwethaf yw hwn!
Asgob ! A mae'n amser gwely hefyd !
Beth am rhoi 'extension on the extension' fel roedd yr ad cwrw na yn arfer gweud - gallai y job hyn gymeryd nes y flwyddyn newydd - yn 2010...
Efallai bod eisiau y 'wisdom of crowds' fan hyn, fyddai ni'n dweud...
Wnes i ddim gofyn am gwis anodd....
1. Huntingdon Life Sciences
4. Bodolaeth cofeb i Oliver Cromwell yno.
5. Ysgol babyddol "Christ the King" - ar fedd Cromwell "Christ, not man, is King"
10. Llys-enw ar Richard Cromwell "Queen Dick"
6. Y "Rump Parliament" wrth gwrs - Cromwell eto
7. Cromwell yn talu am gychwyn mwyngloddion yn Rhiw-Saeson?
Mi wyt ti ar y trywydd iawn,Dewi ond yn anghywir ynghylch yr ysgol. Enwau'r ddwy ysgol yn Rhiwbeina yw "Ysgol Rhiwbeina" ac "Ysgol Llanisien Fach". Google yw eich ffrind!
9. Concwest gwaedlyd Cromwell o Iwerddon.
8. Cromwell yn Sir Gar....
"Efallai mai'r cofnod ryfedda yn hanes Cromwell a'r ardal oedd ei ymweliad â Llan Newydd uwchben tref Caerfyrddin. Trodd tuag yno i ymweld â'i deulu yn ffermdy Cwmcastell fach. Dywed traddodiad yma mai Oliver Williams oedd ei enw cywir er i lyfrau hanes nodi mai gŵr o Huntington ydoedd. Cydnabyddid yn ardal y ffermdy mai mab ydoedd i Syr Richard Williams a gymerodd yr enw Cromwell wedi i'w ewythr Thomas ap Morgan gael ei ddyrchafu yn Arglwydd Cromwell gan Harri VIII."
Ok - roedd gan Cromwell gysyllltiadau a Llanisien. Fferm Cromwell...ateb fi yn well
3. John Major
Os mai 'Hungtington Life Sciences' ydi'r ateb cywir i rif un yne roedd Major, fel Cromwell, yn Aelod Seneddol dros Huntington.
2, "Love Story"? Oliver Barrett IV ?