Two Spokes
Maddeuwch i mi am fod yn hunan-dosturiol, yn onanistig, hyd yn oed, am eiliad.
Ers i benderfynu gymryd hoe mae nifer o bobol yn y cynulliad wedi gofyn i fi, neu'r ³ÉÈËÂÛ̳, ddarparu fersiwn Saesneg o'r blog yma. Dyw hynny ddim yn mynd i ddigwydd.
Fe wnaeth Betsan, finnau ac eraill frwydro'n hir dros yr egwyddor y dylid cael blogs gwahanol yn y ddwy iaith oherwydd eu bod, yn eu hanfod, yn bersonol. Mae'r frwydr honno wedi ei hennill.
Am ryw rheswm mae 'na bobol sy'n teimlo gwerth mewn cyfieithu'r stwff dw i'n sgwennu yn fan hyn. (translation "Iw cun si sum of this stwff in Inglsih at") Yn eu plith mae; a
Mae'r ddau yn cwyno fy mod wedi blogio lot yn y ddyddiau diwethaf i'w profi nhw. Euog.
Doedd dim cysylltiad o gwbwl ac ail lansio a newid delwedd safle gwleidyddol Cymraeg y ³ÉÈËÂÛ̳!
Fe fydd yn rhaid i fy annwyl ffrind ddysgu'r pethau 'ma.
Dyna yw blogio Dylan. Byswn wedi gallu codi'r ffon. Ond fe fyddai hynny yn llai o sbri ac yn llai difyr i ddarllen. Dyna yw'r gwahaniaeth rhwng y "day job" a'r blog. Ond dw i'n cymryd nad oeddet ti'n gwrthwynebu'r sylw?
SylwadauAnfon sylw
"Doedd dim cysylltiad o gwbwl ac ail lansio a newid delwedd safle gwleidyddol Cymraeg y ³ÉÈËÂÛ̳!"
Nid wyf yn deall y frawddeg yma. Ai 'ac' yw'r gair iawn yma ? Efallai fy mod i jyst yn bod yn 'thick'.
Ond dwi ddim yn deall pam dy fod yn mor 'chippy' am hyn i gyd ? Efallai fod 'hawlfraint' i gael, ond fyddai hwnna yn stopio pobol o ddefnyddio 'BabelFish' petai hwnna yn datblygu i weithio yn dda efo'r Gymraeg ?
Mae daeryddiaeth yn hanes ar y we, a fydd phob 'blog' yn gallu cael ei ddarllen yn fyd eang cyn bo hir - a nid hwn yw'r pwynt yr internet ?
BeddGelert, Sori! Ceisio bod yn ddoniol oeddwn i.
I esbonio. Rwyf wedi bod yn blogio'n galed iawn yr wythnos hon fel rhan o ail-lansiad safle gwleidyddol Cymraeg ³ÉÈËÂÛ̳ Cymru.
Dw i'n ddiolchgar i Ordovicius a'i olynnwyr am gyfiethu.Does gen i ddim gwrthwynebiad o gwbwl. Roeddwn i jyst yn ei gweld hi'n ddoniol bod y criw newydd wedi gorfod wynebu storom o flogio yn eu wythnos gyntaf o gyfieithu!
Efallai y dylwn i esbonio pam y mae 'na ddau flog gwahanol ar wefan ³ÉÈËÂÛ̳ Cymru, un Saesneg gan Betsan a'r un yma yn Gymraeg. Mae 'na lawer o dystiolaeth bod deunydd sy'n unigryw i wefan Gymraeg y ³ÉÈËÂÛ̳ yn denu darllenwyr ychwanegol- yn enwedig pobol sy'n fwy hyderus a chysurus yn eu Saesneg na'u Cymraeg.
Os oedd yr un blog yn cael ei gyhoeddi yn y ddwy iaith ar yr un pryd fe fyddai nifer darllenwyr y fersiwn Gymraeg yn dioddef.
Dyw'r ffaith bod safleoedd tu allan i'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn cyfiethu ddim yn broblem oherwydd y "time lag".
Yn wir mae'r cyfiethu o gymorth i'r blog yma o safbwynt cyfeiriadau a chyhoeddusrwydd ac yn fodd i Blogs annibynnol yn Saesneg gynyddu eu traffig. Sori os nad oedd hynny'n eglur o'r post gwreiddiol.
Ie, mae eisiau 'USP' ar y blog yma.
Mae'n siom nad yw wedi listio ar y '³ÉÈËÂÛ̳ Blog Network' ar y dde, ond mae gymaint ohonyn nhw nawr, mae'n galed cadw lan..
Rhai o'r rhai eraill sydd 'off piste' yw..
Un i ddysgu Saesneg..
/worldservice/learningenglish/communicate/blog/student/0000010518.shtml
Efallai fydd in i helpu mi i beidio a cholli my Nghymraeg, 'just in case' fydd yr LCO 'na yn mynd trwyddo..
/blogs/bbcinternet/ Fyddai deall fel mae technoleg yn amharu neu helpu Cymraeg, a'i ddefnyddio mewn busnes yn ddiddorol.
/blogs/sporteditors/ Gwn ni ddim a oes blog chwareuon gyda ³ÉÈËÂÛ̳ Cymru. Ond fallai fyddai hwn yn rhy ddadleuol..
o.n. - A ydyw Betsan yn cael ei thalu am fod yn 'bouncer' i bobl sydd yn dod trwy ei 'drws ffrynt' ar y ffordd i'r blog yma, sgwn i..