Gwylio'r Kremlin
Does 'na neb yn y cynulliad sy'n fwy hoff o gymdeithasu na'r Ceidwadwyr. Maen nhw wastad yn barod am baned neu beint, i gyfnewid clecs a sibrwd sibrydion.
Nid fel 'na mae pethau heddiw. Roedd dirnad gwleidyddiaeth fewnol y Kremlin yn nyddiau Brezhnev yn hawdd o gymharu â cheisio canfod beth sy'n mynd ymlaen y tu ôl i ddrws caeedig swyddfeydd y Ceidwadwyr yn Nhŷ Hywel.
Serch hynny mae hi'n ymddangos bod 'na dipyn o ryfel cartref yn mynd 'mlaen gyda Nick Bourne yn ceisio ail-sefydlu ei awdurdod ar ôl y tymhestloedd ei dreuliau a'r "gyfrol gyfeiliornus" ynghylch Rhodri Morgan.
Daeth Nick o fewn y dim i golli'r arweinyddiaeth ar y pryd. Mae'n debyg mai dim ond gwyliau'r Nadolig a gwrthateb i ymosodiadau hysterig y "Western Mail" wnaeth achub ei groen. Gallai'r rheiny oedd wedi hogi eu cyllyll fod yn difaru peidio eu defnyddio heddiw.
O'r hyn ydym yn deall fe wnaeth y mab darogan Jonathan Morgan, y ffefryn i olynu Nick, wrthod cael ei symud o fod yn llefarydd iechyd i fod yn llefarydd addysg. O ganlyniad does dim swydd ganddo fe ar hyn o bryd. Y si yw mai Andrew RT Davies yw'r llefarydd iechyd newydd.
Nid Jonathan yw'r unig aelod anhapus. Mae'n ymddangos bod Alun Cairns, Brinle Williams a William Graham hefyd yn dawel gynddeiriog. Ydych chi wedi sbotio'r patrwm? Mae'r hen griw yn cael ei siaffto a chywion 2007 yn cael eu dyrchafu. Mae Nick yn gamblo y bydd hynny'n sicrhâi cefnogaeth ambell i aelod allweddol fel Darren Millar ac Angela Burns i'w arweinyddiaeth gan adael i Jonathan i fferru yn Siberia'r meinciau cefn.
Un cwestiwn, pam ar y ddaear y mae Brinle'n anhapus? Does bosib bod e wedi cael ei symud o'r briff amaeth? Wedi'r cyfan ar wahân i ffermio unig arbenigedd Brinle yw achosi trafferth i fodurwyr ac anghyfleustra i deithwyr. I ba swydd arall y byddai fe'n gymwys? Fe wnâi gyfrannu pum punt i "Comic Relief" pe bai'n cael ei benodi'n Llefarydd Trafnidiaeth!
SylwadauAnfon sylw
Wyt ti'n meddwl y bydd Nick Bourne yn llwyddiannus yn ei ymgais i sefydlogi'r sefyllfa, Vaughan? Neu ai ansad fydd ei arweinyddiaeth o hyd, gyda'i 'elynion' (a yw hynny'n air rhy gryf?) yn chwilio am gyfle i ddyrchafu rhywun cryfach i'w le?
"Game , Set & Match" i Bourne yn fy marn i!
Bourne Again felly
"Bourne Conspiracy?"