³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Esgyn yw nod ysgol

Vaughan Roderick | 16:28, Dydd Mercher, 25 Mawrth 2009

Dwi'n ymwybodol y gallai postio gormod ynghylch ffrae ysgolion Caerdydd fod yn ddiflas i'r rheiny sy ddim yn byw yn y brifddinas. Peidiwch a becso. Dydw i ddim yn bwriadu rhygnu ymlaen am unrhyw ysgol unigol, pwynt mwy cyffredinol sy gen i.

Mae'r Cyngor yng Nghaerdydd yn ceisio delio â dwy ffactor sef y nifer o lefydd gwag yn yr ysgolion Saesneg a'r ffrwydriaid yn y galw am addysg Gymraeg. Os ydy'r cynlluniau yn cael ei gwireddu fe fydd na oddeutu ugain o ysgolion cynradd a thair ysgol uwchradd Gymraeg yn y ddinas ymhen ychydig flynyddoedd. Y broblem yw na fydd hynny, hyd yn oed, yn ddigon i gwrdd â'r galw ac y bydd nifer o'r ysgolion hynny yn y llefydd anghywir.

Yr hyn sy'n gwneud pethau'n anodd i'r Cyngor yw nad yw hi'n gyfreithlon i ddefnyddio'r angen i ddiwallu'r galw am addysg Gymraeg fel rheswm dros gau ysgol Saesneg. Yn hytrach mae'n rhaid sicrhau/esgus bod ehangu'r ddarpariaeth Gymraeg a chrebachu'r ddarpariaeth Saesneg yn ddwy broses gyfan gwbwl ar wahân i'w gilydd.

Mae 'na anfanteision amlwg yn deillio o'r rheol honno. Un o rheiny yw bod ysgolion Cymraeg yn cael eu lleoli ar hap a damwain yn hytrach nac ar sail strategol. Mae lleoliadau'r Ysgolion Cymraeg yn dibynnu bron yn llwyr ar ba ysgolion Saesneg y mae'r cyngor wedi llwyddo eu cau yn hytrach nac yn y llefydd mwyaf addas a chymwys ar eu cyfer.

Am y rheswm hwnnw mae'r ddwy ysgol gynradd sy'n gwasanaethu talp helaeth o dde orllewin y ddinas, er enghraifft, o fewn ychydig strydoedd i'w gilydd ac am yr un rheswm mae'r ddwy Ysgol Uwchradd o fewn pum munud i'w gilydd.

Ymhen ychydig fe fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi ei strategaeth ar gyfer addysg Gymraeg, cynllun a allai arwain at gynnydd sylweddol yn y ddarpariaeth. A fydd y strategaeth honno yn caniatáu i gynghorau lunio strategaethau ysgolion cynhwysfawr neu a fydd disgwyl i'r awdurdodau barhau a'r system ryfedd sy'n bodoli ar hyn o bryd?

Yn y cyfamser fe fyddwn yn datgelu manylion y cynllun ar gyfer Coleg Ffederal Cymraeg ar CF99 heno. Cofiwch wylio.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:15 ar 25 Mawrth 2009, ysgrifennodd darlithydd:

    Yn edrych ymlaen at y rhaglen heno. Er, efallai mai edrych ymlaen yw'r term anghywir.
    Rwy'n hanner gobeithio clywed rhyw fath o esboniad ynglyn a beth yw Coleg Ffederal, a sut y bydd y fath beth o unrhyw ddefnydd i ddysg cyfrwng Cymraeg.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.