O Luned tyrd yn ôl...
Mae gen i'r parch mwyaf at Eluned Morgan ac unwaith dwi'n ddigon parod i gredu ei bod yn dweud y gwir wrth ddweud mai "treulio rhagor o amser gyda'r teulu" yw'r rheswm am ei phenderfyniad i roi'r gorau i fod yn Aelod Seneddol Ewropeaidd. Wedi'r cyfan, a hithau ar frig y rhestr Lafur doedd dim peryg iddi golli ei sedd a does dwywaith chwaith ei bod yn mwynhau'r gwaith ac yn effeithiol wrth ei gyflawni. Rwy'n ddigon parod i dderbyn hefyd nad yw hi wedi gwneud unrhyw benderfyniad ynglŷn â'i dyfodol gwleidyddol er fy mod yn amau y bydd y "withdrawal syptoms" yn waeth na mae hi'n disgwyl.
Y posibilrwydd sy'n cael ei grybwyll amlaf ynghylch dyfodol Eluned yw y gallai hi olynu Rhodri Morgan fel cynrychiolydd Gorllewin Caerdydd yn y cynulliad. Wedi'r cyfan mae hi wedi byw yn yr etholaeth gydol ei hoes ac roedd ei thad yn rheithor yn Nhrelái ac yn cynrychioli'r ardal ar y Cyngor am flynyddoedd.
Beth bynnag yw barn Eluned am y syniad mae 'na reswm da iawn i feddwl y bydd 'na bwysau mawr arni i sefyll. Y rheswm hwnnw yw bod Gorllewin Caerdydd yn sedd llawer llai diogel nac mae rhai yn credu. O gofio statws a phoblogrwydd Rhodri Morgan, doedd maint ei fwyafrif yn 2007 ddim yn ddigon i argyhoeddi rhywun bod gafael Llafur ar y sedd yn gadarn.
Llafur; 10,390 (38.6%)
Ceidwadwyr; 6,692 (24.9%)
Plaid Cymru; 5,719 (21.3%)
Dem. Rhydd. 4,088 (15.2%)
Mwyafrif; 3,698 (13.8%)
Ers hynny mae dau beth wedi digwydd. Yn gyntaf cafwyd etholiadau lleol oedd yn dystiolaeth bellach o wendid Llafur yn yr etholaeth. Dyma gyfanswm cynghorwyr y pleidiau yn yr etholaeth.
Plaid Cymru; 7
Llafur; 6
Dem. Rhydd. 4
Ceidwadwyr; 2
Yr ail ddatblygiad yw bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi penderfynu canolbwyntio eu hadnoddau ar Dde Caerdydd a Phenarth yn hytrach na'r etholaeth orllewinol o hyn ymlaen.
Canlyniad hynny, yn fy marn i, yw y gallai'r ras fod yn un agos iawn rhwng tri cheffyl y tro nesaf. Mae hynny'n creu sefyllfa ryfedd iawn.
Gorllewin Caerdydd yw'r unig etholaeth y tu allan i gadarnleoedd traddodiadol yr iaith lle y gallai pleidleisiau'r Cymry Cymraeg fod yn gwbwl allweddol. Pa ymgeisydd Llafur allai apelio at y pleidleiswyr hynny? Nid Ramesh Patel bid siŵr.
SylwadauAnfon sylw
"does dwywaith chwaith ei bod yn mwynhau'r gwaith ac yn effeithiol wrth ei gyflawni."
Diddorol Vaughan - o dop fy mhen rwy'n methu meddwl am un peth o bwys mae hi wedi cyflawni.....Sut mae"Cymdeithas Cledwyn" y dyddiau yma....?
Wedi perfformiad Eluned Morgan ar Dragon’s Eye neithiwr, dwi’n amau’n fawr a ddylai Cymry Cymraeg ei chefnogi. Trafod ‘annibyniaeth’ oedd hi a Adam Price, ond o fewn dim fe ddechreuodd awgrymu mai creu rhwyg rhwng ‘Welsh speakers and non Welsh speakers’ oedd bwriad Plaid Cymru. Roedd yn enghraifft wych o’r modd y mae rhai aelodau Llafur yn dal i droi at yr iaith Gymraeg fel arf i ddadlau yn erbyn newid cyfansoddiadol. Cyfeiriodd Adam Price ddim at yr iaith o gwbl, ac roedd yn amherthnasol i’r drafodaeth. Dwi wedi bod yn eitha cefnogol i Eluned yn y gorffennol, ond roedd hi’n swnio fel Don Touhig neithwr.
Dwi'n amau dim, fel un a oedd yn ddigon gwirion i ddarllen adroddiad Cymdeithas Cledwyn ar y modd y gallai Llafur ennill pleidleisiau'r Cymry Cymraeg, nad ydi Eluned efo'i bys ar fotwm y Cymry Cymraeg, fel petai. Eluned Morgan oedd yn bennaf gyfrifol am yr adroddiad, ac mae cynnwys y ddogfen erchyll honno {wir, mae o'n erchyll!} yn awgrymu'n gryf i mi nad ydi hi'n dallt meddylfryd y mwyafrif llethol o Gymry Cymraeg, boed o Gaernarfon neu Gaerfyrddin neu Gaerdydd!