Torri glo man yn fannach
Oherwydd CF99 dydw i ddim yn cychwyn gwaith tan ddau ar Ddydd Mercher ac mae'n dipyn o ddefod gen i stopio am ginio yn y Black & White Cafe ar y ffordd i mewn. Caffi gweithwyr hen deip yw'r Black & White, yn cynnig ciniawau rhost, brecwastau trwy'r dydd, a chant a mil o bethau wedi eu ffrio gyda sglodion. Yr unig beth anghyffredin am y lle yw'r ffaith mae Radio 4 yn hytrach na gorsaf bop sy'n chware yn y cefndir.
Oherwydd hynny clywais drafodaeth hynod ddifyr heddiw ynghylch ymdriniaeth y cyfryngau o Streic y Glowyr. Hen gyfaill i mi, Nicholas Jones, gohebydd diwydiannol y ³ÉÈËÂÛ̳ adeg y streic, oedd un o'r cyfranwyr ac roedd e'n gadarn o'r farn nad oedd y glowyr wedi cael chwarae teg gan newyddiadurwyr.
Dadl Nic oedd bod methiant y cyfryngau wedi ei seilio ar gyfres o ffactorau. Yn gyntaf doedd neb yn gallu credu y gallai Arthur Scargill fod yn gywir wrth honni y byddai'r llywodraeth yn llwyr ddifa'r diwydiant glo. Yn ail roedd canolbwyntio ar y niferoedd bychan o lowyr oedd yn dychwelyd i'r gwaith yn hytrach na'r niferoedd mwy oedd ar y llinellau piced yn dilyn naratif y cyflogwyr. Y ffactor bwysig arall meddai oedd bod newyddiadurwyr yn gweithio y tu ôl i linellau'r heddlu ac yn gweld pethau o'u safbwynt nhw.
Ar y cyfan rwy'n tueddu cytuno a Nic ond roedd profiadau newyddiadurwyr yn Ne Cymru ychydig yn wahanol. Gan fod y Maes Glo'n gyfrifol am dros hanner colledion y Bwrdd Glo doedd dim dwywaith yn ein meddyliau ni bod pob un o'r pyllau dan fygythiad. Ar ben hynny roedd penderfyniad cyfarwyddwr y maes Glo, Phillip Weekes i beidio cymell gweithwyr i dorri'r streic yn golygu bod y berthynas rhwng newyddiadurwyr a'r streicwyr yn gymharol wareiddiedig. Cafodd car Hefin Wyn ei racso- ond dynion caled fu glowyr Celynnen erioed!
Os unrhyw beth, tueddi ochri gyda'r glowyr a'r rheolwyr lleol wnaeth y cyfryngau Cymreig. Roedd hynny'n gymharol naturiol. Mae pob gwasanaeth newyddion i ryw raddau yn adlewyrchu safbwyntiau a rhagfarnau ei gynulleidfa.
Yr hyn sy'n rhyfedd i mi yw'r ffordd yr ydym yn ymdrin â'r diwydiant a'u sgil effeithiau heddiw gan ymddwyn fel pa bai torri glo rhan o hen hanes. Mae hynny'n bell o fod yn wir. Rydym yn son byth a hefyd am yr Wylfa, er enghraifft, gan anghofio bod y diwydiant glo yng Nghymru o hyd yn cyflogi llawer mwy o bobol na'r diwydiant niwclear.
Yng Nghwm Nedd mae cannoedd o weithwyr yn torri glo mewn gweithfeydd gafoodd eu cau gan Lo Prydain ac sydd wedi eu hail agor gan gwmnïau mawrion a Chymry mentrus. Draw yn Nyffryn Aman ar ôl blynyddoedd o segurdod ail-agorwyd y rheilffordd i wasanaethu'r gweithfeydd glo brig llewyrchus. Mae gorsaf drydan Uskmouth wedi ail-agor hefyd ac o lo y mae'r rhan fwyaf o drydan y de'n cael ei gynhyrchu. Lan ym Mhontypridd mae swyddogion yr NUM yn gweithio'n ddiwyd i wasanaethu degau o filoedd o gyn-lowyr a'u gweddwon.
Faint o sylw mae'r pethau 'ma'n cael? Dim llawer. Yn lle hynny rydym yn ail-bobi'r un hen luniau o'r streic pan ddaw rhyw ben-blwydd arbennig. Yr un hen beth, dro ar ôl tro.
Efallai bod Nic yn gywir bod y glowyr wedi cael cam gan y cyfryngau chwarter canrif yn ôl. Efallai eu bod o hyn yn cael cam heddiw.
SylwadauAnfon sylw
Dwi'n byw yn y stryd drws nesaf i'r Black a White ac yn mynd na'n ddigon aml am frecwast da ... wedi clywed pethau rhyfeddach o lawer yno fy hun de!