Ar Werth
"Y gred gyffredinol yw y bydd Lembit yn colli Maldwyn ac y gallai Democrat Rhyddfrydol arall ennill."
Roedd hi'n drawiadol heddiw na wnaeth Kirtsy Williams anghytuno a'r gosodiad hwnnw yn ei chynhadledd newyddion wythnosol.
Cyhoeddodd Kirtsy hefyd y bydd pob un o ymgeiswyr seneddol yn blaid yn gorfod arwyddo cod ymddygiad yn addo ad-dalu unrhyw elw a wneir trwy werthu ail gartrefi yn San Steffan. Fe fydd disgwyl i Aelodau Seneddol presennol y blaid gydymffurfio. Ni fydd unrhyw aelod presennol yn cael sefyll os ydy ef neu hi yn gwrthod arwyddo. Mae hynny'n cynnwys unrhyw aelod gafodd ei ethol yn 1997 cyn y cynnydd enfawr ym mhrisiau tai.
Ydy Kirsty, yn dawel fach, yn gobeithio y bydd rhywun yn gwrthod arwyddo?
Beth sydd gan Lembit i ddweud? Mae'n bryd i ni ymweld â'i golofn yn y Daily Sport.
"All the same, the general mood is to portray us all as naughty people on the make. It's a shame. You'd probably like most MPs if you met them. It's also a shame that the actions of the Telegraph have not been properly scrutinised. I suggest you stick to the Sport. You know what you're getting, and, unlike the Telegraph's info none of the boobs are remotely dodgy."
SylwadauAnfon sylw
Gobeithio nad yw 'r hyn sydd yn cael ei awgrymu yma'n wir!
Onibai fod Lembit yn sefydd,fuasai raid i ti ffeindio esgys newydd ,Vaughan, i brynu'r Daily Sport!