³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

O pa fodd y cwymp y cedyrn

Vaughan Roderick | 10:50, Dydd Iau, 21 Mai 2009

Dydw i ddim yn beio'r Ceidwadwyr am bwyso am etholiad cyffredinol. Mae 'na ddadl gyfansoddiadol gref o blaid y syniad- yn ogystal â mantais wleidyddol i'r Torïaid, wrth reswm.

Fe fyddai etholiad cynnar yn esgor ar "chaos" yn ôl Gordon Brown ac yn sicr mae hynny'n wir cyn belled a mae'r Blaid Lafur mewn ystyriaeth.

Roeddwn wedi bwriadau sgwennu am gyflwr Llafur wythnos yn ôl ar y diwrnod y lansiodd hi a Phlaid Cymru eu maniffestos ar gyfer etholiadau Ewrop. Roedd hi fel bod mewn rhyw fydysawd cyfochrog. Dyna i chi Blaid Cymru yn lansio ei maniffesto sgleiniog gyda chyflwyniad proffesiynol mewn gwesty moethus. Roedd y maniffesto Llafur ar y llaw arall fel rhywbeth wedi ei gynhyrchu ar Sinclair ZX81. Fe'i lansiwyd mewn stafell debyg i gwpwrdd cefn yn Transport House gydag ambell i boster hen fasiwn wedi ei flu-tacio ar y wal.

Mae'n anodd gor-ddweud ynghylch maint y twll y mae Llafur ynddi. Fe wnaeth Richard Wyn grynhoi'r peth yn dda yn ei golofn yn "Barn" yn ddiweddar.

"Heb beirianwaith; heb aelodau; heb ideoleg sy'n cymell ac ysbrydoli; heb arweinyddiaeth Gymreig neu Brydeinig sy'n argyhoeddi...heb ddyfodol? Does bosib bod prif rym gwleidyddol Cymru'r ugeinfed ganrif ar fin cwymp mor fawr â hynny?"

Gellir darllen y ddadl yn gyfan ary cylchgrawn! Sgwennodd Richard ei erthygl cyn y llanast presennol ynghylch treuliau. Mae ei eiriau hyd yn oed yn fwy perthnasol nawr.

Pe bai 'na etholiad cyn gwyliau'r haf byswn yn disgwyl i Lafur golli Gogledd Caerdydd, Bro Morgannwg, Gorllewin Abertawe, Gwyr, Llanelli, Gorllewin Caerfyrddin, Ynys Môn, Aberconwy, Dyffryn Clwyd a Delyn. Deg sedd- ac mae hynny'n lleiafswm. Fe fyddai seddi fel Gorllewin Casnewydd a Phen-y-bont hefyd yn y fantol ac mae'n ddigon posib y gallai Plaid Cymru neu ambell i Dai Davies wneud marc yn rhai o seddi'r cymoedd.

Fe fyddai etholiad cynnar yn hunanladdiad gwleidyddol i Lafur. Cofiwch i rai mae hunan laddiad yn opsiwn deniadol o gymharu â misoedd arteithiol yn disgwyl am ddiwedd anorfod.
...

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:33 ar 22 Mai 2009, ysgrifennodd FiDafydd:

    Does dim amheuaeth y bydd etholiadau'r blynyddoedd nesaf yn rhai anodd iawn i'r Blaid Lafur. Y cwestiwn diddorol, fodd bynnag, ydi beth ddigwyddith wedyn? A rydd hyn y farwol ar Lafur fel prif blaid naturiol Cymru? A ydi'r symudiad cyffredinol yn sgil datganoli ac yn sgil y newid sydd wedi bod yn y Blaid Lafur, yn ogystal â'r newid cymdeithasol yng Nghymru, yn golygu na all Llafur fod yn sicr y byddan nhw'n gallu dringo yn ôl i'w hen safle?

    Gofyn y cwestiwn ydw i, wn i ddim be' ydi'r ateb. A'r cwestiwn arall wrth gwrs ydi, pa un o'r pleidiau eraill sy'n debygol o elwa fwya'?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.