Pan ddaw yfory...
Yfory fe fydd Llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi ei strategaeth ar gyfer addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Fe fydd y manylion yn ymddangos ar y tudalennau newyddion yn y man. Yn fy marn fach i mae'r cynllun hwn yn bwysicach na'r LCO iaith o safbwynt y Gymraeg ac fe ddylai wneud llawer i dawelu pryderon ymgyrchwyr iaith ynghylch y glymblaid presennol.
Fel y byddai dyn yn disgwyl y Gweinidog Addysg, Jane Hutt, fydd yn lansio'r cynllun. Fe fyddai Plaid Cymru yn gallu ceisio cymryd y clod er mwyn ceisio plesio ei chefnogwyr ond mae'n ymddangos na fydd hi'n ceisio gwneud hynny.
Pam felly? Wel mae 'na ddau reswm. Yn gyntaf fe fydd ambell i gyngor yn poeri gwaed ynghylch y strategaeth. Fe fydd hi'n fwy anodd iddyn nhw gwyno am "selotiaid iaith" a "gwthio'r Gymraeg lawr ein gyddfau" os ydy Plaid Cymru yn cadw draw. Yn ail mae 'na gyfres o apeliadau ynghylch addysg Gymraeg (yn Sir Gaerfyrddin a Chaerdydd ymhlith eraill) yn debyg o gyrraedd desg y Gweinidog yn ystod y misoedd nesaf. A fydd Jane yn fodlon tanseilio'r strategaeth y mae hi ei hun wedi ei lansio? Go brin.
SylwadauAnfon sylw
Cytuno. Gobeithio fy yfory yn diwrnod hanesyddol i addysg cyfrwng Cymraeg.
Felly, 139 mlynedd wedi deddf hyrwyddo addysg cyfrwng Saesneg - h.y. Deddf Addysg 1870, rydym ni'n cael strategaeth hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg ... gwell hwyr na hwyrach sbo!
Ddim am fod yn grintachlyd - gall hwn, ac dwi'n meddwl y bydd hwn - yn gam anferthol i'r iaith. Gan gyffwrdd pob darn pren wrth law, pob hwyl i Jane Davidson ac Alun Ffred a llywodraeth Cymru'n Un.
D. Enw
ON - dim ond addysg 'trochiant' Cymraeg sy'n gweithio ... dydy addysg 'ddwyieithog' ddim.
Yn ogystal a'r apeliadau mae Estyn yn arolygu'r Adran Addysg ar hyn o bryd. Mae edrych ymlaen am ei adroddiad
Tra y dylid croeso unrhyw strategaeth o'r fath, o edrych arni ychydig yn fanylach mae hi'n unrhyw beth ond am uchelgeisiol. Er enghraifft, dydi cynyddu nifer y disgyblion sy'n gwneud eu TGAU yn Gymraeg o 10% i 13% ddim yn dda iawn mewn termau real, nac ychwaith gynyddu nifer y plant cynradd sy'n derbyn addysg Gymraeg i 25% pan fo'n 23% eisoes.
Y mwy y mae rhywun yn craffu'r brif bwyntiau, y mwy y mae'n ymddangos yn strategaeth weddol wan, a siomedig. Gellid cyflawni cymaint mwy petai'r ewyllys gwleidyddol yno.
Cytuno Hogyn o Rachub. Gweler ymateb Cymdeithas yr iaith yma: