Rhyfel Cartref
Mae gwleidyddion yn casáu cwestiynau rhethregol neu o leiaf yn esgus eu casáu nhw os ydyn nhw'n dymuno osgoi ateb! Ond beth os ydy cwestiwn rhethregol yn ymwneud a sefyllfa sy'n debyg o ddigwydd a beth os ydy'r sefyllfa yn un allweddol bwysig i ddyfodol Cymru?
Dyma'r senario i chi. Erbyn Hydref 2010 mae'n ddigon posib y bydd gan y Deyrnas Unedig lywodraeth Geidwadol. O dan y fath amgylchiadau mae'n debyg y byddai dwy ran o dair o'r aelodau yn y Bae yn pleidleisio o blaid cynnal refferendwm ar bwerau deddfwriaethol llawn i'r cynulliad. Does 'na ddim digon o aelodau Ceidwadol i flocio cynnig o'r fath a ta beth mae mwy nac un un AC Ceidwadol wedi dweud wrtha'i y byddant yn anwybyddu unrhyw chwip i bleidleisio yn erbyn refferendwm.
Yn y fath amgylchiadau a fyddai'r Ysgrifennydd Gwladol, Cheryl Gillan (neu efallai, Jonathan Evans) yn gwrthod y cais? Roedd Peter Hain o'r farn na fyddai unrhyw Ysgrifennydd Gwladol yn beiddio gwneud. Mae'n debyg hefyd mai dyna oedd barn arolwg Wyn Roberts o bolisi datganoli'r blaid nes i rai o fawrion y Ceidwadwyr gael gafael ar yr adroddiad a dileu ambell i gymal allweddol.
Ar hyn o bryd mae'r Ceidwadwyr yn paratoi eu maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol. Mae 'na bwysau cynyddol ar Nick Bourne i sicrhau bod y ddogfen yn cynnwys addewid penodol a phendant na fyddai'r Ysgrifennydd Gwladol yn gwrthod cais am refferendwm. Yn ôl un Ceidwadwr amlwg fe fyddai methu gwneud hynny yn drychineb. Fe fyddai'n gadael i'r pleidiau eraill bortreadu'r Torïaid fel plaid wrth Gymreig, meddai "os ydy Nick yn colli'r fwrydr neu'n gwrthod ei hymladd mae ei holl waith dros y ddegawd ddiwethaf wedi ei ddadwneud."
SylwadauAnfon sylw
dwi'n meddwl bod y linc o flog Betsan i dy un di wedi diflannu. os siawns i gal e nol?? ma'n handi mynd nol a mlan...!
wedi sylwi hyn hefyd, mae colled ar ei ol. hefyd, sut fod betsan wedi cale face-lift on nid ti Vaughan?
Ni'n gweithio ar y peth