Byw yn y wlad
Fe fydd Rhodri Morgan yn agor "Hafod Eryri" yn ddiweddarach yr wythnos hon. Cyn i chi ofyn fe fydd y Prif Weinidog yn cerdded i fyny'r Wyddfa ar lwybr Pen y Gwryd. Er ei fod yn 69 dyw Rhodri ddim yn un i osgoi sialens trwy gymryd y trên!
O'r copa, os ydy'r tywydd yn caniatáu, fe fydd Rhodri yn gallu gweld talp o'r Gymru wledig. Mae'n sicr y bydd y Prif Weinidog yn mwynhau'r olygfa ond fe fydd yn ymwybodol hefyd ei fod yn edrych ar dir sydd brysur troi'n estron i'r Blaid Lafur.
Rydym i gyd yn gyfarwydd erbyn hyn a'r ffaith bod Llafur wedi methu ennill un etholaeth y tu allan i Forgannwg a Gwent yn yr etholiadau Ewropeaidd. Hanner y stori yw hynny. Yn bwysicach efallai, mae'n bosib bod system ddwy blaid yn datblygu yn y rhan fwyaf o etholaethau gwledig a dyw Llafur ddim yn un o'r pleidiau hynny.
Mae 'na naw etholaeth, rhai ohonynt ac aelodau seneddol Llafur, lle roedd Plaid Cymru a'r Torïaid ar frig y pôl gyda'r ddwy blaid yn curo Llafur. Dyma nhw; Ynys Môn, Caernarfon, Meirionnydd Nant Conwy, Conwy, Gorllewin Clwyd, De Clwyd, Preseli Penfro, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro a Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
Mae'r patrwm hynny yn annhebyg o gael ei ail-adrodd yn yr etholiad cyffredinol ym mhob un etholaeth ond mae'n bosib, yn debygol hyd yn oed, y bydd rhywbeth digon tebyg yn digwydd yn etholiad cynulliad 2011.
Y peryg i Lafur yw bod yr hyn digwyddodd yng Nghonwy/Aberconwy yn etholiad 2007 yn digwydd ar hyd a lled y Gymru wledig gyda Llafur yn cael ei gwthio i'r ymylon.
Gyda llaw hyd y gwelai i "Dau o'r Bae" yw un o'r ychydig raglenni ar Radio Cymru sy ddim yn dod o gopa'r wyddfa ddydd Gwener. Rydym yn ystyried trefnu darllediad allanol o'r fan byrgars ar ben Mynydd Caerffili fel protest.
SylwadauAnfon sylw
Os ydw i'n cofio'n iawn, ma'r 'snack bar' ar fynydd Caerffili yn honi mai nhw ydi'r longest established snack bar in the UK' neu rywbeth tebyg. Wn i ddim sut mae nhw'n gwybod hynny!
Nid De Clwyd. Mae'r ffigurau ar wefan Golwg 360, sy'n rhoi 2,063 i Lafur a'u rhoi'n bedwerydd yn anghywir. Cafodd Llafur 3,063, gan ddod yn ail i'r Ceidwadwyr, ychydig o flaen Plaid Cymru.