Chwarae Plant
Dydw i ddim yn gweithio yn yr Eisteddfod. Ambell i drip diwrnod amdani felly!
Yn anffodus rwy'n colli cyfle felly i rannu "" gydag Owain Clarke a Gwyddno Dafydd. Am biti!
Oedd Tyddyn Llan a Phlas Coch yn llawn, dywedwch?
Dyw "awyrgylch diwedd tymor" ddim cweit yn cyfleu'r awyrgylch yn NhÅ· Hywel yw wythnos hon. Mae'n fwy pe bai'r athrawon i gyd wedi diflannu'n sydyn gan adael y plantos i redeg yn rhemp.
Myrddin Edwards, swyddog newyddion hoffus a golygus y Lib Dems wnaeth gyflwyno'r gêm ddiweddaraf i sgubo'r cynulliad. Y dasg yw canfod pum gair sy'n gyffredin yn Saesneg ond y mae Cymry Cymraeg yn methu'n lan eu cyfieithu
Rhain oedd awgrymiadau Myrddin;
Calf (y darn o'r coes nid llo!) , Broom (y planhigyn), Leeches, Collar bone, Curlew
Mae'r rhain gan staff "Democratiaeth Fyw";
Ladle, Jay (aderyn), Moustache (nid mwstas), Tuning Fork, Barrel Organ
Cewch chi feddwl am rheiny tra fy mod i yn nodi ffaith fach ryfeddol y gwnes i ddysgu o'r Times y bore 'ma. Perchennog cyntaf cerbyd "Porsche" yn y deyrnas unedig oedd... Cyngor Bwrdeistref Aberdâr! Mae'r papur yn ychwanegu mai bws- nid car oedd y Porsche arbennig yna!
SylwadauAnfon sylw
'Swn i'n gallu cyfieithu calf (bola coes), broom (banal) a curlew (gylfinir) heb edrych yn y geiriadur ac fi'n siwr gelwn i'r gweddill mas o'r geiriadur yn ddigon rhwydd. Siwr bo geiriau lot mwy anodd na'r rhain i gal :-)
Ladle - lletwad
collar bone - pont yr ysgwydd
jay - sgrech y coed
Termau digon cyffredin yn tydyn??
Oes siwr Ceri! Mae geiriauron wedi eu gwahardd! Y pwynt yw bod y geiriau's yn gorfod bod yn eiriau pob dydd yn Saesneg. Mae'r rhan fwyaf yn cael rhyw ddau neu dri'n gywir- ond gwahanol rai! Rwyn cadw "ebyll deudwll" yn ol fel fy ecsoset personol!
Dwi'n meddwl mai'r gymraeg am 'jellyfish' ydi'r gorau. Cont y Môr - clasur udai! Plentynaidd effallai, nefar!
Wel, heb eiriadur, dwi'n gwybod 'na trawswch ydi mwstash a gelod ydi leeches.
Dwi'n gwybod hefyd mai jay ydi sgrech y coed - ro'n i'n cyfieithu rhywbeth amdano ychydig nôl, enw gwych!
O roi'r gorau iddi a wedyn edrych yn y geiriadur (neu Cysgeir wrth gwrs!) byddwn i'n dadlau bod curlew (sy'n air dwi BYTH wedi'i glywed fy hun) y ffordd arall rownd, hynny ydi bod y gair Cymraeg yn gyffredin ond y gair Saesneg ddim ... ond dwi ddim am sbwylio'r hwyl a dweud be dio!
Trawswch yw mwswtash ar ddyn...ond beth yw'r gair am fwstash ar ddynes? Diolch i Myrddin am hwn!
Own i'n rhyw feddwl taw 'trwchflew' odd y gair iawn (?!) am fwstash yn Gymraeg yn hytrach na 'trawswch'.
Ife trwchflew yw mwstash menyw 'ta?
Mae honni bod pobl gwlad y gân, o bobman, ddim yn gwybod be di trawfforch yn hurt botas.
Fel eraill, welai ddim problem efo sgrech y coed, gylfinir na trawfforch.
Be am rhain, ar thema gwleidyddol...
Turnout (mewn etholiad)
Engage (e.g the Assembly is seeking to engage with children)
Heb ddod ar draws cyfieithiadau hwylus eto
Mae'r gair moustache yn eithaf cyffredin yn Ffrangeg. Tybed a all rhywun ei gyfieithu i'r Saesneg?
Mae'n gair yn dod o'r Ladin mustacium, mae'n debyg.