Glyn Cwac Cwac
Ydych chi'n cofio ynys yr hwyaid- yr addurn aeth yn symbol o'r holl helynt ynghylch treuliau? Ydych? Wel, dyma i chi ddatblygiad cyffrous.
Fe fedra i ddatgelu ffaith ysgytwol. Mae gan Glyn Davies nid un, ond dwy o'r ynysoedd hyfryd hyn yn ei ardd ym Maldwyn.
Peidiwch a phoeni. Does dim awgrym o gwbwl bod Glyn wedi ceisio hawlio'u cost o'r trethdalwyr! Gyda chylch yr orsedd hefyd mae'n rhaid bod ganddo gythraul o ardd! Owain Clarke oedd y Capten Cook wnaeth ddarganfod yr ynysoedd hudolus hyn wrth baratoi ffilm ynghylch treuliau i CF99. Mae'n rhaid i chi syllu'n ofalus ar y cefndir y tu ôl i Glyn i'w gweld!
Fe fydd y rhaglen am ddeg ar S4C ac fe fydd Dafydd Elis Thomas ymhlith y gwesteion. Fi sy'n chwarae rhan Dic Pen Moel a Bethan yw Ifan Twrci Tenau'r noson!
SylwadauAnfon sylw
Mae sôn am hwyaid yn rhoi cyfle i mi gyfeirio at y criced! Pwy fydd pobl yn eu cefnogi? Yn syml iawn, fe fydda i'n cefnogi Awstralia. Trist neu beidio, yn seicolegol alla i ddim cefnogi Lloegr. Gobeithio y bydd y tywydd yn dda, y criced yn well a'r canlyniad yn dderbyniol felly.
(Gyda llaw, mae'r llythrennau bach yn y blwch ambell waith yn gwbl amhosib eu deall - o hyd!! I mi beth bynnag. Pam fod dy flog di angen y rhain o gwbl?
Fe wna i ofyn am y llythrennau. Fe wnaeth blogs y ³ÉÈËÂÛ̳ ddioddef "spam attack" y llynedd. I atal rheiny mae'n nhw'n dda, dw i'n meddwl. O safbwynt y criced rwyf wedi dilyn yr un polisi ers fy arddegau. Rwy'n cefnogi Lloegr yn erbyn Awstralia a De Affrica a phawb arall yn erbyn Lloegr (os nad oes Cymro yn y tim). Beth fyddai Norman Tebbit yn dweud?